THE latest community news from Llanybydder
Eglwys San Pedr
SUSAN Evans oedd yn gyfrifol am Wasanaeth y Gair a gynhaliwyd ar ddydd Sul, 8 Hydref a’r thema oedd Diolchgarwch, gan ein bod yn nhymor Diolchgarwch.
Cynhaliwyd Gwasanaeth Diolchgarwch eisoes ar nos Fercher, 27 Medi o dan arweiniad y Parch Bill Fillery. Mwynhawyd Swper Diolchgarwch ar ôl hynny yng ngwesty’r Llew Du. Casglwyd bwyd, tuniau ac ati, er budd y Banc Bwyd Llanbed.
Yn ystod Gwasanaeth y Gair derbyniwyd cyfraniadau gan Val, Avril, Ann, Heather, Edmund, Bethan, Irene ac Eleri i gynnwys y darn adnabyddus gan Ceiriog, sef Yr Arad Goch. Gallwn ddiolch i Dduw am ogoniant byd natur ac am y pethau syml. Derbyniwyd darlleniadau o’r Salmau i gynnwys y 100fed Salm.
Cynhaliwyd gwasanaeth ar y cyd ar ddydd Sul, 29 Hydref i gynnwys Eglwys Llanwnnen, Llanwenog, Llanllwni a Llanybydder o dan arweiniad y Parch Suzy Bale i ddathlu’r Holl Seintiau. Mwynhawyd cymdeithas bellach ar ôl y gwasanaeth dros luniaeth ysgafn.
Enillwyr y Clwb 100 mis Hydref oedd: Val Wood £15; Steve Spencer £10 a Meinir Pattie £5.
Diolch i Byron Thomas, Llystroyddin, Llanbed am gynnal Bore Goffi ar fore Sadwrn, 30 Medi er budd yr eglwys. Llwyddwyd i gasglu £135. Mwynhawyd paned, cacen a chymdeithas hyfryd.
Diolch i bawb a gefnogodd yr achlysur, i gynnwys Val Wood ac Avril Jones am helpu â’r trefniadau arlwyo, hefyd Irene Davies am baratoi’r bara brith a’r pice ar y maen.
Estynnir dymuniadau gorau i bawb o’r eglwys sydd heb fod yn teimlo’n hwylus ar hyn o bryd, gan gynnwys chwaer Heather, sef Kathleen Edwards o Dregaron sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Country and western night
THE Black Lion are holding a country and western night with Memphis Belle on 11 November to start at 8pm.
Entry fee is £5.00.
There will be an auction and raffle.
All the proceeds will go to Llanybydder nursery school.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



-with-her-son-Rufus-her-partner-and-younger-son-Noah.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.