THE latest community news from Llwyndyrus
Merched y Wawr
CYNHALIWYD cyfarfod cyntaf o’r tymor hwn yn Festri Capel Tyddyn Shon, nos Fawrth, 11 Medi.
Croesawyd yr aelodau’n ôl gan y llywydd a chafwyd sawl enghraifft o lwyddiant, penblwyddi arbennig, babanod bach newydd a sawl priodas ymysg yr aelodau a’u teuluoedd.
Cafwyd cyfle i ymaelodi a diolchwyd i Marian, y trysorydd, am baratoi’r fantolen eto eleni.
Trafodwyd y rhaglen am y misoedd nesaf, gan dynnu sylw arbennig at y dathlu sy’n digwydd fis Ebrill nesaf pan fydd y gangen yn 50 oed.
Atgoffwyd yr aelodau o ddyddiadau gweithgareddau sydd i ddod yn fuan, fel y Cwis Hwyl; y Ffair Aeaf yn Llanelwedd a’r cystadlaethau crefft a choginio; hefyd y gwasanaeth carolau ar 2 Rhagfyr ym Mhorthmadog.
Cafwyd awgrymiadau gan yr aelodau ar gyfer y cinio Nadolig, a derbyniwyd gwahoddiad gan gangen Pencaenewydd i ymuno â hwy ym mis Mai.
Weddill y noson treuliwyd orig ddifyr iawn yng nghwmni Anne Elizabeth Williams, yn trafod meddyginiaethau gwerin, gan fynd â phawb yn ôl sawl canrif.
Mae Anne wedi gwneud gwaith ymchwil helaeth yn y maes hwn yn ystod ei chyfnod fel ymchwilydd yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ac yn ddiweddar wedi cyhoeddi llyfr ar y pwnc.
Cafwyd sawl stori ddifyr ganddi am yr hen foddion a wnaed o lysiau, coed a phlanhigion o bob math.
Diolchwyd i Anne am rannu ei gwybodaeth hefo’r aelodau a mwynhawyd paned ar diwedd y noson.
Bydd y cyfarfod nesaf ar 2 Hydref pan fydd Elan Gwilym o Pincio Penllyn yn ymuno â’r aelodau.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.