THE latest community news from Nefyn
Merched y Wawr
I DDIWEDDU’R tymor gwnaeth aelodau Merched y Wawr Nefyn ymweld â chanolfan Ambiwlans Awyr Cymru ym maes Awyr Caernarfon.
Ar ôl cyfarfod am ginio yn y caffi a redir er budd yr Ambiwlans Awyr, fe’n croesawyd gan Eryl Jones, y cydlynydd lleol.
Gwnaeth y criw oedd ar ddyletswydd ar y diwrnod ein cyfarfod ar y llain glanio i roi dipyn o hanes eu gwaith inni a dangos yr hofrennydd diweddaraf sydd ganddynt.
Yr oedd pawb wedi synnu gweld yr holl gyfarpar sydd ar yr hofrennydd â phopeth wedi ei drefnu i ffitio’n berffaith.
Cawsom sgwrs gan Eryl wedyn am waith yr elusen yn gyffredinol.
Yr oedd pawb yn cytuno ein bod wedi cael prynhawn difyr a diddorol iawn.
Bydd y tymor yn ail-ddechrau ar ôl yr haf am 7yh nos Wener, 14 Medi, yng Ngwesty Nanhoron a’r ail nos Wener o bob mis wedi hynny.
Croeso i aelodau newydd i ymuno.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.