THE latest community news from Nefyn

Capel Soar

Fore Sul, 5 Awst, am 10yb cafwyd gwasanaeth yng ngofal Dan ac Eirwen a’u thema nhw oedd ‘Cariad Crist a Chyfamod Duw gydag Abraham’.

Ar 12 Awst, cafwyd oedfa am 5yp ac yn gwasanaethu ‘roedd y Parch Casi M Jones, Clynnog Fawr gyda dau o drigolion Madagascar yn cadw cwmni iddi sef Serge ac Olivia.

Eu testun oedd ‘Llythyr Paul at Gristnogion Rhufain’ a mwynhawyd paned a sgwrs i ddilyn.

Dydd Sul, 19 Awst, oedd diwrnod taith flynyddol yr aelodau a chyfeillion yr Eglwys, oedd wedi ei drefnu eleni gan Janet Wyn Hughes.

Cafwyd cinio yn y Llong yn Aberdaron, yna ymweld â chanolfan Felin Uchaf ger Y Rhiw.

Gadael wedyn i gyrraedd Eglwys Llaniestyn erbyn 5yp a mwynhau gwasanaeth yno yng ngofal Dr Parry Smith. Pnawn braf â phawb wedi mwynhau.

Dydd Sul olaf y mis, 26 Awst, cafwyd oedfa am 10yb yng ngofal y Parch Harri Parri, Caernarfon a’i destun oedd ‘Galw’r disgyblion gyntaf’.

O ddrws i ddrws

Bob pnawn Llun, Mercher a Gwener mae O Ddrws i Ddrws yn dal i fynd â phobl o’u cartrefi yn Ll?n i Ysbyty Gwynedd am bris newydd o £5 y pen.

Mae Bws Arfordir Ll?n hefyd yn rhedeg tan ddiwedd Hydref am bris o £2 y daith bob diwrnod ond dydd Mawrth a Mercher.

Mae’r ddau wasanaeth yma yn ychwanegol i wasanaeth dydd i ddydd O Ddrws i Ddrws sy’n mynd â phobl o’u cartref yn Ll?n at apwyntiadau a siopau ac ati. Ffoniwch 01758 721777.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]