THE latest community news from Nefyn
Capel Soar
CAFWYD gwasanaeth gan y Parch Gwyn Rhydderch, Tudweiliog fore Sul, 2 Medi, am 10yb â’r testun oedd ‘Crist yn galw’r Disgyblion’.
Ddydd Sul, 9 Medi, cafwyd dau wasanaeth, yn gyntaf am 10yb gan y Parch R E Hughes, Nefyn gyda’r testun ‘Luc, Pennod 15 – Y Mab Afradlon (Gofyn a Duw yn Ateb)’.
Ac am 5yh, cafwyd cwmni y ficer, Richard Wood â’i destun ef oedd ‘Mathew 22 a Luc 6’ – Caru Duw, bod yn drugarog. Gwneud i Dduw fel i ni ein hunain.
Fore Sul, 16 Medi, am 10yb ymuno yng Nghapel Isa gyda’n gweinidog y Parch Glenys Jones â’i testun oedd ‘Ymrwymiad, Ymroddiad ac Ymddiried’ a chafwyd sgwrs dros paned i ddilyn.
Wedyn am 5yh yng Nghapel Soar, y Parch Dewi Morris, Porthmadog gyda’r testun ‘Luc 12, adnod 40’, Chwithau hefyd byddwch barod oherwydd pryd na wyddoch y daw Mab y Dyn.
23 Medi am 10yb cafwyd gwasanaeth gan Dewi Jones, Pwllheli, testun: ‘Iesu’r Meddyg Da – Gwella Cleifion – Iesu trosom ni i gyd’.
Y Parch Cath Williams oedd yn cadw cwmni i ni yng Nghapel Soar am 10yb fore Sul, 30 Medi, â’i testun oedd ‘Rhufeiniaid 3 a 5 – Cyfraith Gwlad a Chyfraith Crist’.
Ac am 5yh y Parch Gwynfor Williams, Caernarfon gyda ‘Llythyr Paul at Timotheus’ – Duw y Cariad yn ennill bob amser.
Cyfarfod blynyddol/AGM
BYDD y cyfarfod blynyddol yn Y Ganolfan ar 20 Tachwedd am 7yh.
Croeso cynnes i bawb.
AGM in the Ganolfan on 20 November at 7pm.
Warm welcome to all.
Ladies club
VICKY and Ann, the speakers from Women’s Aid, unfortunately did not arrive.
Jill Hughes, the president, stepped in and gave a very interesting insight into her working past, which revealed the reasons for her choice of the charity Women’s Aid.
The speaker at the next meeting on 25 October, at the Nanhoren Hotel, will be Nansi Saville, entitled ‘Downs and the Mountains’ at 7.45pm for 8pm.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.