THE latest community news from Nefyn
Capel Soar
BORE Sul, 7 Hydref, am 10yb cafwyd gwasanaeth gan y Parch Ioan W Gruffydd ar y testun ‘Merch Jeirus’.
Am 5yh roedd y gwasanaeth yn ngofal Robert Morris, o Penygroes, â’r testun oedd ‘Ail Lythyr Paul at y Corinthiaid – Derbyn y Groes (Gobaith Dwys Goffau)’.
Ar 14 Hydref am 10yb roedd rhai o’r aelodau yn cymryd gofal o’r gwasanaeth: Alun Jones, Y Teulu Estynedig; Vera E Jones, Y Rhif 12 ym Mywyd Iesu; Gwen J Parry, Tri Amser – Gorffennol, Presennol a’r Dyfodol; a Lleucu, Emyn i Ddiweddu a’r Fendith.
Am 10yb ar fore Sul, 21 Hydref, cafwyd gwasanaeth diolchgarwch plant yr Ysgol Sul â’r thema oedd ‘Diolch am Roddion Dyddiol Tymhorol’.
Nos Lun, 22 Hydref, am 6yh cafwyd gwasanaeth diolchgarwch y capel yng nghwmni y Parch Olwen Williams, Tudweiliog, â’r testun oedd ‘Salm 43 Adnod 5 – Agwedd Diolch’.
Fore Sul, 28 Hydref, am 10yb cafwyd gwasanaeth ar y testun ‘Crefydd yn dod yn ôl – Amddiffyn Ffydd’.
Hefyd, ar nos Fawrth, 9 Hydref, cafwyd a mwynhawyd cinio y cynhaeaf yn y Nanhoron. Cafodd y noson ei threfnu gan Arwyn Owen Hughes.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.