THE latest community news from Nefyn

Capel Soar

AR 4 TACHWEDD am 10yb, roedd y gwasanaeth yn nwylo y Parch Olwen Williams, Tudweiliog – Testun oedd Salm 29 – “Llef” saith gwaith, Llais Duw yn uwch na dim s?n. Heddwch o wrando ar y llais.

Bore Sul, 11 Tachwedd, am 10yb y Parch Angharad Roberts, Trefor oedd yn cadw cwmni i ni â’i thestun oedd ‘Sul y Cofio’ - Cymod a Heddwch.

Am 5yh ‘Marc 5’ – Cyffelybu Teyrnas Dduw i Hedyn Mwstard.

Y Parch Glenys Jones oedd yn gyfrifol o’r gwasanaeth am 10yb ddydd Sul, 18 Tachwedd a fe ymunodd Capel Isa, Nefyn a Moriah, Morfa Nefyn gyda chriw Capel Soar i’r gwasanaeth yma. Y testun oedd, hanes ‘Y Mimosa’. Cadw’r tân yn fyw – gorffennol, heddiw a’r dyfodol.

Am 5yh y Parch Huw J Hughes, Porthaethwy â’i destun oedd ‘Duw ar gael mewn llawenydd a thristwch’.

Am 5yh ddydd Sul, 25 Tachwedd, roedd y Parch Euros W Jones, Llangefni yn gyfrifol o’r gwasanaeth â’i destun oedd ‘Dathlu rhyddid i addoli Duw’.

Nos Fawrth, 13 Tachwedd, am 7yh aeth criw o’r aelodau i Canolfan Bowlio Glasfryn i fowlio a chymdeithasu.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]