THE latest community news from Nefyn

Capel Soar

FORE Mawrth, 2 Ebrill, cafwyd Cyfarfod Gweddi Undebol y mis dan arweiniad y Parch R O Roberts a’r Parch Dyfrig Rees, yr ysgrifennydd i Undeb yr Annibynwyr yn bresennol.

Nos Sul, 7 Ebrill, ‘roedd y gwasanaeth yng ngofal y Parch R E Hughes, a’r testun oedd ‘Joseff a’r newyn yn yr Aifft’.

Fore Sul, 14 Ebrill 14, ‘Cofio’r Pasg’ oedfa Undebol. Cymerwyd rhan gan blant yr Ysgol Sul a gweinyddwyd y Cymun dan arweiniad y Parch Glenys Jones a’r Parch R O Roberts.

Ddydd Gwener, 19 Ebrill, cafwyd Cymun y Groglith unwaith eto yn ngofal y Parch Glenys Jones a’r Parch R O Roberts.

Dafydd Iwan oedd yn gyfrifol o’r wasanaeth nos Sul, 21 Ebrill, a’i destun oedd ‘Gwynfyd y rhai sy’n credo a heb weld’.

Y Parch Gwynfor Williams, Caernarfon fu’n cynnal y gwasanaeth ar 28 Ebrill a’i destun oedd ‘Amser i bob peth a chyfle i wneud cymwynas’.

Cylch Meithrin

MAE’R Cylch Meithrin yn chwilio am berson cyfrifol ar gyfer y Cylch.

I ddechrau ym mis Medi, bydd rhaid i’r person fedru siarad a darllen Cymraeg.

Does dim rhaid cael plentyn yn mynychu’r cylch.

Gwirfoddoli fydd y swydd; am fwy o wybodaeth, cysylltwch â 07769 695792.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]