THE latest community news from Nefyn

Cyfeillion Plas Hafan

CYFARFU Cyfeillion Plas Hafan yn ddiweddar gydag Ann Roberts yn cadeirio.

Mae’r Cyfeillion yn ddiolchgar iawn am y rhoddion er cof sydd wedi eu derbyn yn ddiweddar. Deallwyd y bydd yr uned dementia newydd yn y cartref yn agor yn y dyfodol agos. Dywedodd y rheolwr Wendy Owen fod gwaith paentio a dodrefnu arall yn mynd ymlaen hefyd.

Mae Dafydd Iwan a John ac Alun wedi ymweld yn ddiweddar a phawb wedi mwynhau.

Bu plant Ysgol Nefyn ar helfa Wyau Pasg ac mae grwpiau o breswylwyr wedi mwynhau mynychu Go Dementia ym Mhwllheli a Be Wnawn ni Heddiw’ ym Motwnnog, eraill wedi bod yn yr Amgueddfa Forwrol a rhai allan yn ciniawa yng Ngwesty Nanhoron. Mae staff y cartref yn bwriadu trefnu ffair haf a hefyd cael caffi bach yn y lolfa yn fisol. Roedd aelodau o’r Cyfeillion am roi cymorth a diolchodd Wendy iddynt, hefyd i Beti, Dilys a Jill, sy’n cynorthwyo yn y siop bach bob wythnos.

Bydd y Cyfeillion yn cyfrannu tuag at ddodrefn gardd sydd ei angen ac eitemau i’r uned newydd. Cynhelir y cyfarfod nesaf am 7.30yh nos Lun, 15 Gorffennaf.

Merched y Wawr

CYFARFU y gangen yn ddiweddar yng Ngwesty Nanhoron. Hysbyswyd yr aelodau am swper Owain Glynd?r fydd ymlaen ym Mhant Du, Penygroes ar 20 Medi ac am ddigwyddiadau Age Cymru yn Bontnewydd.

Trafodwyd prosiect ailgylchu y llywydd cenedlaethol a phenodwyd dyddiad ar gyfer mynd i gasglu ysbwriel yn lleol. Pasiwyd i’r swyddogion barhau yn eu swyddi – llywydd Margaret, trysorydd Nansi, ysgrifennydd Dilys a dosbarthydd Y Wawr Marian.

Bydd cyfarfod olaf y tymor ym mis Mehefin, taith ar fws yr arfordir. Enwau i Marian a Helen.

Croesawodd Beti y g?r gwadd, sef Chris Evans o Sbardun, Pwllheli a chafwyd amser difyr iawn yn teithio o amgylch yr ardal ar fap.

Pensioners Club

A MEETING was held on Tuesday, 7 May with Mrs B W Jones in the chair. Mrs Jones welcomed members and sent best wishes to members unable to attend. Mrs Jones extended the club’s sympathy with Mrs G Jones Parry and family on the death of her grandson. Mr and Mrs I Roberts were congratulated on their diamond wedding.

Mrs Jones introduced Mrs M Roberts who gave an insight into her business Melan, using fleeces from various breeds of sheep and producing many varieties of wool and items made from the different textures. She demonstrated the fleece being spun, with members being invited to try the spinning wheel.

Ladies Club

LEAH, a local sculptor and artist gave a very interesting and amusing talk about the 10 years she and her husband lived in a small hamlet in France, at first knowing very little French, where only three of the 11 houses were occupied by English speakers. She talked about the characters of the local area and how she herself learned to sculpt.

Next meeting, 6 June, the treasure hunt. Meet at the Nanhoron Hotel just before 6pm. Anyone who has not ordered their meal whether taking part in the treasure hunt or wishing to join just for the meal at 8pm, needs to contact Alison the secretary by 3 June.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]