THE latest community news from Nefyn

Capel Soar

FORE Sul, 1 Hydref, am 10yb roedd y gwasanaeth yng ngofal y Parch Ioan Wyn Griffith, Pwllheli – ‘Bamabas y Cenhadwr’.

Am 5yh cafwyd cwmni y Parch Dewi Morris, Trawsfynydd a’i thema oedd ‘Iesu yn curo wrth y drws’.

Ar 8 Hydref, am 10yb cafwyd gwasanaeth ar y cyd efo’r Ysgol Sul – Diolchgarwch a Cyfeillgarwch yng ngofal Janet Wyn Hughes.

Beti Wyn Jones a Dan Owen oedd yn gyfrifol o’r cyfarfod am 5yh a’u thema oedd ‘Cyfeillion, Cariad a Cyfeillgarwch’.

Fore Sul, 15 Hydref, am 10yb cafwyd Gwasanaeth Diolchgarwch y Plant – ‘Dwylo, rhannu bara a bisgedi’.

Am 5yh cafwyd gwasanaeth gan Alwyn Pritchard, Pentreuchaf a’i thema oedd ‘Myfi Yw (Gofal Crist)’.

Croeso i bawb.

Merched y Wawr

CAFODD aelodau Merched y Wawr Nefyn noson ddifyr iawn nos Wener gydag ymweliad â Cwt Tatws yn Nhudweiliog.

Cawsom gyfle i edrych o gwmpas a phrynu rhai o’r nwyddau bendigedig sydd ar gael yn y cwt newydd, o fagiau i fatiau ac o ganhwyllau i glustdlysau.

Cawsom bryd o fwyd i ddilyn a phawb wedi eu digoni.

Diolchodd Margaret i Daloni am y croeso cynnes er gwaetha’r tywydd gwael.

Daloni roddodd y raffl a Doris enillodd.

Bydd ein cyfarfod nesaf yng Ngwesty Nanhoron am 7yh gyda sgwrs am Lysiau Llesol a bydd croeso i aelodau newydd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]