THE latest community news from Nefyn
Cyfeillion Plas Hafan
CYFARFU Cyfeillion Plas Hafan nos Lun, 4 Rhagfyr, gyda Terry Hughes yn cadeirio.
Bu’r aelodau yn paratoi ar gyfer parti Nadolig y Cyfeillion drannoeth y cyfarfod.
Yr oedd Sioned Roberts, Llansannan yn darparu adloniant a byddai’r anrhegion yn cael eu rhannu i bawb cyn cael bwffe i orffen.
Mae’r trigolion yn mynd allan i Westy Nanhoron i fwynhau cinio Nadolig traddodiadol a phasiwyd i dalu am hyn.
Buont hefyd yn ddiweddar ar drip i Ganolfan Frongoch cyn mynd ymlaen i Fangor i siopa.
Mae rhai o blant Ysgol Nefyn yn galw gyda’r preswylwyr yn wythnosol ac mae cryn edrych ymlaen am hyn.
Fe fwynhawyd hefyd yn ddiweddar cael cwmni Mei, wyres Mair Roberts, yn chwarae clarinet.
Mae staff a thrigolion Plas Hafan yn ddiolchgar iawn i bawb sydd yn ymweld ar hyd y flwyddyn ac mae croeso i unrhyw un alw i mewn unrhyw dro.
Bydd cyfarfod nesaf y Cyfeillion am 7.30yh ar nos Lun, 26 Chwefror.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.