THE latest community news from Penrhyndeudraeth
Merched y Wawr Deudraeth
MAE’R Cymry yn hoffi trafod y tywydd wrth gyfarch ei gilydd ac felly yn union yr oedd hi ar y nos Lun olaf ym mis Hydref ar gyfer y cyfarfod misol.
Roedd y gaeaf yn dangos ei ddannedd am y tro cyntaf â phawb yn falch o gyrraedd cynhesrwydd y Neuadd Goffa.
Gwenda Paul oedd y llywydd am y noson a buan iawn aethpwyd drwy’r gwaith papur oedd angen ei drafod gan gynnwys trefnu’r cinio Nadolig yng Ngwesty’r Heliwr ym Mhorthmadog.
Cyfarfod arall i edrych ymlaen ato.
Yna, at uchafbwynt y noson pan gyflwynodd Helen Ellis, PCSO Paula Stewart, y blismones sy’n gofalu am drigolion Penrhyn.
Penderfynodd Paula siarad am ‘Gadw trefn a chadw’n ddiogel’.
Nid oedd angen cadw trefn ar yr aelodau oherwydd iddynt wrando yn astud ar y cyngor a gafwyd ar sut i gadw’n ddiogel. Pwnc amserol iawn. Dim ond i chi agor papur newydd unrhyw ddiwrnod a chewch ddarllen am y sgams sydd ar eich ffonau t? yn ogystal â ffônau symudol, heb sôn am y cyfrifiadur.
Cafwyd cyngor doeth ganddi ar sut i ddelio efo’r bobl anonest sy’n trïo cael gafael ar eich arian prin.
“Cofiwch gadw goriadau y t? a’r car mewn man saff yn eich cartref a chofiwch gadw golwg manwl ar eich bagiau wrth siopa yn yr archfarchnad,” meddai.
Yn y 1970au roedd dau blismon yn gofalu am drigolion y pentref, ond erbyn heddiw, yn dilyn yr holl doriadau yng nghyllid yr heddlu, mae Paula yn gofalu am Benrhyn a sawl pentref cyfagos. Felly roedd ei neges yn glir – byddwch yn ymwybodol bob amser o’ch diogelwch.
Ar ddiwedd ei sgwrs cafwyd cyfle i’w holi cyn i Helen Ellis ddiolch iddi am noson ddifyr iawn efo neges bwysig i bob un o’r aelodau.
Diolchwyd i Marlene Marples, Helen Williams ac Elisabeth Roberts am y baned a chacen i gloi’r noson.
Ym mis Tachwedd croesawir yr amryddawn Alun Ffred – cofiwch, croeso i unrhyw un ar y nos Lun olaf, 26 Tachwedd yn y Neuadd Goffa am 7yh.
Llun gan Megan Thomas o Beryl Jones a Nefina Parri yn sgwrsio efo PCSO Paula Stewart.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
-with-her-son-Rufus-her-partner-and-younger-son-Noah.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.