THE latest community news from Penrhyndeudraeth

Cangen Deudraeth

GYDA’R flwyddyn 2019 wedi cyrraedd ddiwedd ei ail fis yn barod a hwnnw yn fis lle’r oedd yr ardal ar y newyddion am dorri’r record o fod yn un o’r mannau poethaf ym Mhrydain.

Yn sicr nid oedd angen menig, sgarffiau na ‘thermals’ ar nos Lun, 25 Chwefror yn ein cyfarfod.

Pan mae’r pwyllgor yn cyfarfod i drefnu’r adloniant am y flwyddyn mae angen meddwl yn ofalus ar gyfer un noson yn arbennig, sef noson y dysgwyr.

Nid hawdd yw dysgu iaith newydd, felly roedd yn bleser croesawu’r dysgwyr atom ag yr un adeg edmygu ymroddiad ein gwesteion.

Roedd gan rhai o’r dysgwyr nifer helaeth o eiriau Cymraeg yn ei geirfa ag eraill megis dechrau ar y siwrna o ddysgu’r iaith. Felly be well na Gyrfa Chwilen (Beetle Drive). Wrth iddynt symud o fwrdd i fwrdd gan sgwrsio efo’r aelodau a chwarae’r gêm yr un adeg, cafwyd cyfle iddynt wella safon ei hiaith lafar.

I Eirwen Langdown a Helen Williams mae’r diolch am arwain a’r trefnu manwl ar y noson.

Cyn mynd adref roedd rhaid cael paned a thamaid o gacen – maent werth i’w cael bob amser.

Rydym yn croesawu John Glyn Jones, arweinydd band pres pobl ifanc y cylch ar nos Lun, 25 Mawrth, am 7yh yn y Neuadd Goffa – croeso cynnes i chi ymuno efo ni.

Mwynhawyd ei cwmni yn fawr llynedd ag edrychwn ymlaen i’w clywed eto.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]