THE latest community news from Penrhyndeudraeth.
Merched y Wawr
ROEDD y chwe wythnos ers y cyfarfod diwethaf o Gangen Deudraeth wedi gwibio heibio rhwng prysurdeb y Nadolig a dathlu’r flwyddyn newydd. Felly, braf oedd ail afael yn y gweithgareddau ar gychwyn 2017.
Be well na chael sgwrs ar wella ein hiechyd gan Emma Quaeck. Yn Ganolfan Glaslyn ym Mhorthmadog mae Emma yn gweithio, ac fel rhan o’i gwaith mae’n gweithio efo pobol sy’n awyddus i wella ansawdd eu bywydau. Mae hi hefyd yn gweithio’n galed yn codi arian tuag at Gymdeithas Alzheimer’s.
Eleni, penderfynodd y cangen roi arian tuag at yr elusen yma ag yn y cyfarfod cyflwynwyd £70 i Emma.
Cafwyd sgwrs ganddi ar fanteision ymar-ferion corfforol, yn enwedig i bobl hyn. Yna ychydig o ymarferion – na dim byd rhy egnïol ond rhai a fydd yn rhwystro i ni gael poen cefn, neu dorri esgyrn neu hyd yn oed datblygu’r clefyd melys. Mi fuasai werth i chi weld wynebau’r aelodau yn gwenu a chanolbwyntio wrth chwifio’i breichiau a symud y coesau.
Yna gorffen efo sesiwn bach o Tai Chi – yr ymarferion sy’n gweithio’r cymalau yn dyner ond ar yr un adeg yn tawelu’r corff a’r enaid; fuodd yr aelodau erioed mor ddistaw!
Cyn mynd adra, rhoddodd Emma gyngor i ni wneud ychydig o ymarfer i ddechrau a chynyddu’n raddol, dyw hi byth rhy hwyr i gychwyn.
Nesaf croesawn y dysgwyr atom, felly nodyn yn y dyddiadur ag ar y calendr – 27 Chwefror.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.