THE latest community news from Penrhyndeudraeth.
Merched y Wawr
DYMA wledd arall yng nghwmni dysgwyr yr ardal a thros 20 yn ymuno â’r aelodau ar y noson hynod boblogaidd yma. Mae yn galondid mawr i’r gangen gael eu croesawu bob blwyddyn a cheir rhaglen ddifyr i’w diddanu ac wrth gwrs y cyfle i sgwrsio a lluniaeth wych i ddilyn.Eleni Gwenda a Nefina oedd yn gyfrifol am yr adloniant a chafwyd hwyl fawr yn gwylio y sgets ddoniol gan y ddwy ohonynt.Cawsant gyfle i ddyfalu beth oedd rhai gwrthrychau ac i gael stori am ddigwyddiad anarferol yn ogystal a chyfle i alw ar Modryb Elin Enog i holi am grempog!Nid crempog gawsant fodd bynnag ond llond powlen o gawl a bara ac yna bara brith a chacennau cri a phaned i ddilyn.
Noson werth chweil unwaith yn rhagor a di-olch i’r tiwtoriaid, Ann a Gwynne, am fynychu gyda’u myfyrwyr.Ar derfyn y cyfarfod derbyniodd pob aelod fag arbennig Dathliad yr Aur . Mae amser prysur iawn gan y gangen yn y misoedd i ddod. Mae’r mudiad yn dathlu’r aur eleni a bydd cangen Deudraeth yn dathlu drwy edrych i’r dyfodol yn hytrach nac yn ôl ac wedi gwahodd plant hynaf y dair ysgol leol, sef Ysgol Cefn Coch, Ysgol y Garreg ac Ysgol Hafod Lon atom i’r neuadd ar brynhawn Mawrth, 16 Mai, lle cânt gyfle i gyflwyno eitem neu ddwy inni ac fe fyddwn ninnau yn rhoi rhyw luniaeth ysgafn ar y diwedd iddynt gael cyd gyfarfod a chyd sgwrsio gyda’i gilydd. Edrychwn ymlaen yn arw at hyn ac yn enwedig gan fod gennym ysgol newydd sbon yn ein hardal sef Ysgol Hafod Lon.Yna ar 16 Mehefin dathlwn yr Aur wedyn yng nghwmni cangen Port pan fyddwn yn cyfarfod ar y Cob ac yn cael cyfle i ddal dwylo dros ffin Meirionnydd a Dwyfor mewn dathliad arbennig.
Ar 19 Mehefin fe fydd dathliad arbennig arall ym Mhentref y Parc, lle cychwynwyd y mudiad yn 1968.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.