THE latest community news from Penrhyndeudraeth.
Cangen Deudraeth
MIS y dathlu yw mis Mawrth ac, fel sawl cymdeithas arall, bu cangen Deudraeth yn mwynhau Cinio Gwyl Ddewi.
Y tro yma ym Mryn Eisteddfod yng Nghlynnog y dewisiwyd ciniawa ac ar noson braf roedd y lleoliad yma yn rhoi cyfle i ni wledda a gweld hyfrydwch y machlud dros Aberdesach.
Cafwyd croeso mawr gan Karen a lluniaeth wych ac i ddilyn orig yng nghwmni y Prifardd Mei Mac yn sôn am yr Awen Lawen.
Clywsom am ei farddoniaeth, hefyd am y perlau a gaed ganddo fel Meuryn mewn ymrysonau. Llawer iawn o englynion a limrigau gan ein beirdd cyfoes, rheini weithiau yn ddwys eu naws ac eraill yn rhyfeddol o ddoniol. Noson gyda llawer o chwerthin – yr Awen Lawen yng ngwir wir ystyr y gair.
Mae yn adeg prysur iawn ar ganghennau y mudiad a chafwyd cyfnod byr i’r swyddogion sôn am y digwyddiadau dros y misoedd nesaf yma – ymddengys y bydd gwledda o hyd yn un o nodweddion y cyfnod yma eto!
Aelodau’r gangen cofiwch edrych ar y ‘Digwyddiadur’ i sicrhau na chollwch ddim o’r gweithgareddau! Mae angen dyddiadur reit fawr i nodi y cyfan! Diolch i’r swyddogion eleni am yr holl drefnu – mae yn flwyddyn brysur.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.