THE latest community news from Penrhyndeudraeth
Merched y Wawr
MAE’R cyfarfod cyntaf o Ferched y Wawr ar ddydd Llun olaf o fis Medi yn arwydd fod yr haf drosodd a bod angen i ni chwilio am ddillad cynnes yn barod at y gaeaf.
Yn ffodus eleni roedd ein cyfarfod cyntaf ar ddiwrnod cynnes o haf bach mis Medi. Cynnes hefyd oedd yr awyrgylch yn y Neuadd Goffa wrth i’r aelodau gyfarch ei gilydd ar ôl gwyliau’r haf.
O dan lywyddiaeth Catherine Jones agorwyd y gweithgareddau drwy groesawu’r aelodau newydd i’n plith a diolch i swyddogion llynedd am ei gwaith caled.
Mae eleni yn flwyddyn bwysig yn hanes y gangen - rydym yn dathlu hanner can mlynedd er sefydlu Merched y Wawr yma yn y Penrhyn.
Felly, mae gennym achos dathlu.
Roedd y rhaglen am y flwyddyn yn edrych yn hynod o ddiddorol, dipyn o wrando a chwerthin, tamaid o flasu a bwyta heb anghofio’r canu a sgwrsio.
Pob blwyddyn byddwn yn casglu arian tuag at achos da.
Eleni rydym am godi arian i brynu diffibriliwr ar gyfer Penrhyn a Minffordd.
Peiriant yw diffibriliwr a fydd un diwrnod efallai, yn achub bywyd un o drigolion yr ardal.
Ond i ddod a ni at ein gwestai arbennig mis Medi, neb llai na’r diddanwr enwog Dilwyn Morgan.
Ei bwnc oedd ‘chwerthin’.
A sôn am chwerthin, chwerthin go iawn, chwerthin llond ein boliau.
Fel mae’n digwydd darllenais erthygl y noson honno yn canmol chwerthin i gwffio afiechydon, i godi eich imiwnedd â’i fod yn gymorth i ddelio hefo ‘stress’.
Wel, mae aelodau’r gangen yn griw reit iach ar ôl dos iawn o ffisig Dilwyn Morgan.
Rwy’n dotio at ei ddawn disgrifio sefyllfaoedd - mae pob brawddeg yn ddarlun ar ben ei hun ag yn debyg i bob digrifwr penigamp mae ei amseru rhwng y jôcs yn berffaith.
Prin digon o amser i chi gael eich gwynt atoch cyn y jôc nesa.
Mi fyddai yn meddwl fod y gair ‘arbennig’ yn cael ei ddefnyddio’n rhy aml ond lle mae Dilwyn Morgan yn gwestiwn mae o’n ddisgrifiad teg iawn. Diolch iddo ag i Noson Allan Fach am noddi ein cyfarfod cyntaf yn y flwyddyn dathlu.
Diolch hefyd i Gwenda Paul am drefnu’r danteithion.
Mis nesaf rydym yn croesawu Haf Llywelyn atom a chael ambell i stori am Hedd Wyn.
Mae Trawsfynydd ag yr Ysgwrn yn dathlu eleni hefyd, felly noson i ni edrych ymlaen ato.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.