THE latest community news from Penrhyndeudraeth

Merched y Wawr

MAE hi’n dymor y Nadolig a phawb yn brysur yn trefnu ar ei gyfer, yn prynu anrhegion ac yn edrych ymlaen at yr wyl.

Felly braf oedd cael ysbaid i fwynhau noson arall yn y Neuadd efo ffrindiau yn y gangen ar ddiwedd Tachwedd.

Yr is-lywydd, Gwen Roberts oedd yn arwain y noson, a’i thasg gyntaf oedd delio hefo’r gwaith papur ac yna cyfarch aelod newydd i’n plith.

Ymlaen â ni wedyn i groesawu ein gwestai gwadd - Hazel Jones o Chwilog.

A dewis ardderchog oedd hi hefyd â ninnau ar drothwy’r Nadolig oherwydd roedd ganddi cynnyrch ei chwmni ‘Aerona’ hefo hi.

Mae’r aeron yn tyfu ar y llwyni ar dir Rhedynog yn Chwilog ac efo’r ffrwythau maent yn cynhyrchu gwirodlyn, sudd di-alcohol, siocled a fferins.

Profwyd fod y sudd yma yn dda i’r iechyd efo elfennau i gwffio cancr, hefyd yn gallu lleihau eich pwysau gwaed.

Dyna i chi be ydi lladd dau dderyn hefo’r un garreg, bwyta ac yfed heb deimlo’n euog!

Yna cawsom y cyfle i brofi a blasu cyn iddi roi ychydig o syniadau i ni ar gyfer rysetiau, megis treiffl, paflofa, hufen iâ a hyd yn oed ddefnyddio’r sudd mewn caserol a grefi.

Siawns na fydd na threiffls arbennig o flasus i’w gael yn rhai o’n cartrefi yn y Penrhyn dros yr wyl.

Mae’r busnes bellach wedi tyfu yn waith llawn amser, allan o beth gychwynnodd yn hobi.

Dyna be ydi llwyddiant busnesau bach cefn gwlad.

Cyn diwedd y noson cawsom gyfle i brynu rhai anrhegion Nadolig.

Dydd Sadwrn, 18 Tachwedd, cynhaliwyd Ffair Nadolig yn y neuadd a buom ddigon ffodus i gael dau fwrdd i werthu nwyddau gan godi arian tuag at y Deffibriliwr.

Cafwyd elw o £154 a bellach mae cyfanswm yr arian a gasglwyd bron a chyrraedd hanner ffordd.

Yn y bythefnos i ganlyn bu cyfarfod nos Lun, 4 Rhagfyr, yn Tabernacl gyda Merched y Wawr Sir Feirionnydd yn dod atom i gynnal gwasanaeth Llith a Charol.

Ac yna am 12yp ym Mhlas Tan y Bwlch ar 11 Rhagfyr, byddwn yn mwynhau cinio Nadolig.

Mi fydd amser i ni ymlacio a chael tamaid i fwyta ymysg ein ffrindiau.

Nadolig Llawen i bawb.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]