THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

Rhydfendigaid (Presbyteriaid): Dydd Sul, 1 Gorffennaf, 10yb, Oedfa Undebol, gyda Lyn Ebenezer; 11yb, Ysgol Sul.

Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 1 Gorffennaf, 10yb, ymuno â Rhydfendigaid am yr Oedfa Undebol gyda Lyn Ebenezer.

Carnival

The Bont Carnival will be held on Saturday, 7 July, with the procession starting from the village green at 3pm, to the pavilion where the president, Aled Jones Evans, Cwmann (formerly of Crud-yr-Awel) will crown the Carnival Queen, Megan Herberts, and judge the competitions. Immediately after the carnival, there will be entertainment at the pavilion in the company of The Welsh Whisperer. There will be a bar and refreshments. Enjoy a day of fun for the whole family.

Merched y Wawr

Cynhaliodd Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch y trip dirgel blynyddol ar ddydd Gwener, 22 Mehefin.

Cychwynnodd y bws o Neuadd Pantyfedwen am 12yp, gan deithio lawr i ddyffryn Teifi.

Y gyrchfan gynta oedd y Felin Wlân yn Nhrefach, Felindre.

Derbyniwyd croeso cynnes gan Non a bu hi a’i chydweithiwr Ceri yn tywys pawb oddi-amgylch gan esbonio’r holl broses o gynhyrchu’r gwlân a chafwyd cyfle i weld y gwehyddwyr wrth eu gwaith yn creu carthenni hardd. Cafwyd tipyn bach o hamdden wedyn a chyfle i siopa yn siop y felin a chael paned yn y caffi.

Yr ail gyrchfan oedd hen orsaf drên Henllan. Derbyniwyd croeso cynnes eto yno a chafwyd llawer o hwyl yn teithio ar drên bach y Tylwyth Teg; ail-blentyndod yng ngwir ystyr y gair!

I orffen y dydd pleserus, mwynhawyd pryd o fwyd hyfryd yn Nhafarn Ffostrasol, cyn cychwyn am adre.

Enillwyr y gwobrau raffl oedd Jasmine, Neli, Manon a Kathleen. Diolchodd y llywydd, Joan i bawb am eu cwmni yn ystod y dydd, i Jên ac Ann am drefnu’r diwrnod, i staff y Felin Wlân a Rheilffordd y Teifi, i Dafarn Ffostrasol am y pryd blasus ac i Robert am ei yrru gofalus. Dymunodd yn dda hefyd i Jasmine a fydd yn cychwyn fel llywydd ym mis Medi. Diolchwyd ar ran y ffrindiau a oedd yn bresennol gan Selwyn a Ceri.

Y digwyddiad cynta o’r tymor newydd fydd cynnal stondin gacennau yn Ffair y Ganolfan ar ddyddiad yr hen Ffair Rhos Gwyl Grog, nos Fawrth, 25 Medi yn Neuadd Pantyfedwen. Mae croeso cynnes i aelodau newydd, ac mae’r gangen yn cwrdd fel rheol ar y nos Fawrth gynta o bob mis yn Neuadd Pantyfedwen.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]