THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dim gwasanaethau yn ystod mis Awst.

Bydd taith i’r Ysgwrn (Cartref Hedd Wyn) yn cael ei threfnu ar gyfer dydd Sul, 2 Medi, gyda’r bws yn cychwyn am 10yb.

Os am ymuno â’r daith, rhowch wybod i Neli Jones (01974 831695) mor fuan â phosib er mwyn sicrhau tocyn ar gyfer yr ymweliad a sedd ar y bws.

Carmel (Bedyddwyr): Dim gwasanaethau yn ystod mis Awst.

Coed y Bont

AR ddydd Sul, 2 Medi, bydd diwrnod i’r teulu, sef ‘Hwyl yn y Coed’ yn cael ei gynnal yn y goedwig, o 11yb hyd 4yp.

Bydd y diwrnod yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau amrywiol, megis Picnic Tedis, Cwis Llwybr Natur, Cychwyn Tân, Crefft Coedwigo, Taith Gerdded Dywysiedig a Choedwriaeth.

Bydd y cyfan am ddim, yn cynnwys lluniaeth, ond croesawir cyfraniadau.

Y sefydliadau a fydd yn cymryd rhan fydd Llais y Goedwig, Ymddiriedolaeth Natur Vincent ac Ymddiriedolaeth D a G Cymru.

Bydd pawb yn cwrdd ym Maes Parcio Coed y Bont, ond os fydd y tywydd yn anffafriol, cysylltwch â facebook.com/coedybont neu ffoniwch 01974 831639.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]