THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Coed y Bont

THE fun day organised by members has been hailed a success after a range of items were arranged, including art activities, bush craft lessons, a guided walk of the woodland and talks by representatives from various organisations.

The event, which took place on Sunday, 2 September, also saw the launch of a new geocache nature trail with a range of geocaches available, providing information about the wildlife and woodland with the fun day also seeing a nature trail quiz as part of the geocache trail.

Chris Harris, the chair of Coed y Bont, said: “The event was well organised and everyone present had a great time.”

Amongst the events were sessions on campfire lighting, cooking and bush craft from Sally Harvey, while community artist Pod Clare helped youngsters at Ysgol y Bont to create mosaics which are being displayed in the shelter at the Coed y Bont car park.

A guided walk by Chris and treasurer Jim Cowie gave people the chance to learn more about the history, wildlife, development and projects that have been completed and upcoming projects, while there were also representatives from Llais y Goedwig (the Association for Community Woodlands in Wales), the Mid Wales Red Squirrel Project, South and West Wales Wildlife Trust, the Welsh Pine Marten Project and Vincent Wildlife Trust.

Visitors also enjoyed free snacks and drinks arr­anged by secretary Mandy Cowie.

Coed y Bont members during the group’s fun day. Pictured are Jon Suiter, volunteer; Jason Goodwin, committee member; and chair Chris Harris

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 16 Medi, 10yb, Huw Roderick, Oedfa Undebol; 11yb, Ysgol Sul.

Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 16 Medi, 10yb, ymuno â Rhydfendigaiod am yr Oedfa Undebol gyda Huw Roderick.

Rhydfendigaid

YN ystod yr haf bu aelodau yn ymuno â’r gwasanaethau yng Nghapel Soar y Mynydd.

Ym mis Mai roedd un o’r aelodau ffyddlon yn Rhydfendigaid, Lyn Ebenezer, yn pregethu, a’r Parch Robert Nicholls o Lundain ym mis Gorffennaf. Mwynhawyd tê prynhawn hyfryd yn y Talbot yn Nhregaron cyn cychwyn nôl am adref ar y ddau Sul.

Cynhaliwyd cyfarfod arbennig gan y bobl ieuainc ym mis Mehefin, ac roedd yn braf eu gweld yn cymryd rhan mor hyderus. Cafwyd gair â’r ieuenctid gan Lyn Ebenezer ar ddiwedd yr oedfa.

Bu trip yr Ysgol Sul yn Blue Lagoon yn Sir Benfro ym mis Mehefin, gyda llond bws o blant, rhieni a ffrindiau yn cael diwrnod wrth eu bodd. Cafwyd egwyl yng Nghaerfyrddin ar y ffordd lawr a swper yn Aberaeron ar y ffordd adre.

Cafwyd trip i’r oedolion hefyd ar ddydd Sul, 2 Medi, a’r gyrchfan oedd Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd, cartref y bardd Hedd Wyn.

Cafwyd paned yng nghaffi’r Ysgwrn ar ôl cyrraedd a chroeso twymgalon gan y staff i gyd.

Roedd yn braf gweld y t? fferm a’r adeiladau eraill wedi eu hadnewyddu, a’r tywyswyr yn dod â stori Hedd Wyn a’r Rhyfel Byd Cyntaf yn fyw iawn – agoriad llygad yn wir.

Yn goron ar y cyfan, galwyd yng nghartref nai Hedd Wyn, yr anfarwol Gerald, sydd erbyn hyn yn byw mewn bynglo ar dir Yr Ysgwrn, a chael croeso cynnes ganddo yntau. Cafwyd cinio dydd Sul yn y Rhiw Goch, Bronaber cyn cychwyn am adre.

Roedd yn hyfryd cael cwmni aelodau o’r Eglwys a Chapel Carmel yn ogystal â ffrindiau o Dregaron, â phawb wedi mwynhau’r diwrnod yn fawr iawn.

Bydd Cyrddau Diolchgarwch Rhydfendigaid yn cael eu cynnal ar ddydd Sul, 30 Medi, am 10yb (y plant) a dydd Sul, 14 Hydref yng nghwmni’r Parch Ganon Aled Williams, Llanllwni, am 2yp.

Ffair y Ganolfan

BYDD y ffair yn cael ei chynnal ar ddyddiad yr hen Ffair Rhos G?yl Grog, sef nos Fawrth, 25 Medi, yn Neuadd Pantyfedwen am 7yh.

Bydd y gwahanol fudiadau a chymdeithasau lleol yn cynnal stondinau amrywiol, a bydd raffl a lluniaeth ar gael.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]