THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Noson gofiadwy
Cynhaliwyd noson yng nghwmni Alejandro Jones o Batagonia yng nghyntedd Pafiliwn y Bont nos Wener, 7 Medi; noson wedi ei threfnu gan bwyllgor y pafiliwn.
Roedd yn hyfryd gweld y lle’n llawn, a chafwyd noson lwyddiannus iawn yng nghwmni Alejandro a’i briod Erika.
Maen nhw a’r teulu ar ymweliad â Chymru am chwe mis, ac yn aros yn Llanuwchllyn.
Mae Alejandro wedi bod yn cynnal nosweithiau mewn gwahanol rannau o Gymru, yn dweud ei hanes ac yn canu mewn Cymraeg a Sbaeneg.
Yn ystod y noson, dangoswyd plac arbennig a baratowyd gan Hoelion Wyth cangen Cors Caron, gan John Watkin.
Bydd John yn mynd â’r plac allan i’r Wladfa yn fuan a bydd yn cael ei osod ar Ysgol Gymraeg Trevelin i ddynodi fod yr Hoelion Wyth wedi codi swm fawr o arian i’r ysgol trwy werthu gwin arbennig o Batagonia.
Pennaeth yr ysgol honno yw neb llai nag Erika, gwraig Alejandro.
Yn arwain y noson yn ei ffordd ddihafal ei hun, oedd Dai Jones, Llanilar, ac fel bonws ar ddiwedd y noson cafwyd deuawd gan Dai ac Alejandro, â phawb wedi dotio ar y perfformiad.
Gwasanaethau
Rhydfendigaid (Presbyteriaid): Dydd Sul, 23 Medi, 10yb, Parch Elwyn Pryse (Oedfa Gymun); 11yb, – Ysgol Sul.
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 23 Medi, 2yp, Oedfa yng ngofal Tom Lewis Jones.
Fair
The annual Pantyfedwen Hall Fair will be held on the date of the old Ffair Rhos G?yl Grôg, on Tuesday, 25 September at the hall at 7pm.
The local societies will be holding various stalls, and there will be raffles and refreshments available.
A warm welcome to all.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.