THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Rhydfendigaid
BU’R ieuenctid yn cymryd rhan yng Ngwasanaeth y Cofio ger y Gofgolofn ar ddydd Sul, 11 achwedd.
Diolch i Garin a Gethin Evans, Dion Wyn, Cari Davies, Dwynwen a Rhiannon Jones, Megan a Mari Herberts, Alun a Gwenno Humphreys am fod mor barod i gymryd rhan yn y darlleniadau.
Dechreuwyd tymor y Nadolig gan blant Ysgol Sul Rhydfendigaid trwy ganu carolau yn y Farchnad Nadolig ym Mhafiliwn y Bont ddydd Sul, 22 Tachwedd gan greu naws hyfryd.
Ar fore Sul, 23 Rhagfyr, cynhaliwyd y sioe Nadolig gan blant yr Ysgol Sul.
Croeaswodd Neli Jones bawb i’r oedfa, a chydymdeimlodd â theulu Dolyrychain ar golli brawd-yng-nghyfraith ac ewythr hoff yn Jersey.
Roedd Shaun a’i dri plentyn Cian, Erin a Mali yn mynychu’r oedfa Nadolig yn Rhydfendigaid yn flynyddol pan ar ymweliad, ac roedd eu lle’n wag iawn eleni.
Roedd rhan gynta’r cyfarfod ar ffurf cyngerdd, gydag unawdau lleisiol, unawdau ffliwt a thelyn, deuawd a pharti canu, gyda Neli Jones yn cyfeilio, ac yna perfformiwyd ‘Tawel Nos’ ganddynt.
Yn cymryd rhan roedd Rhiannon Jones, Megan Herberts, Gwenno Humphreys, Mari Herberts, Gethin Evans ac Emrys Jones (unawdwyr, llefarwyr a chorws), Gwenno Evans (Gabriel), Saran Aur (Elisabeth a Gwraig y Llety), Gwawr Jenkins (Mair), Cain Owen (Joseff), Elen Hughes, Anest Jones, Jess Owen a Mati Briall (angylion), Ianto Wilcocks, Iestyn Jenkins, Caio ap Nial, Steffan Wilcocks a Rhys Williams (bugeiliaid), Lleucu Jones, Buddug Jones a Caru Ann (doethion).
Yn anffodus, methodd Delun Davies (bugail) a Guto Davies (Herod) a bod yn bresennol oherwydd amgylchiadau teuluol ond bu’r ddau’n ffyddlon iawn i’r ymarferiadau, a gwelwyd eu heisiau.
Gwnaed casgliad gan Rhiannon a Megan ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a rhannwyd y taflenni gan Gethin ac Emrys.
Diolchodd Jean Williams i bawb a fu’n cymryd rhan ac i’r gynulleidfa luosog a oedd yn bresennol.
I ddilyn, cafwyd amser i gymdeithasu dros baned a mins peis yn Neuadd Pantyfedwen, talwyd ymweliad gan Sion Corn pryd y rhannodd anrhegion i bob plentyn a oedd yn bresennol, yn ogystal ag i Jean Williams, Ann Williams a Neli Jones, athrawon yr Ysgol Sul.
Cyflwynodd aelod bach ieuengaf yr Ysgol Sul, Rhys Williams rodd ar ran y plant i Sion Corn.
Diolch i John Watkin am helpu Sion Corn eleni eto, a diolch iddo hefyd am y rhodd o Goeden Nadolig hardd a oedd yn addurno’r capel dros dymor yr ?yl.
Y Sul canlynol, ar y 30ain, cynhaliwyd Gwasanaeth Plygain yng ngofal y dynion. Cymrwyd rhan gan Lyn Ebenezer, Ian Huws a Selwyn Jones a chafwyd ganddynt dair carol Blygain, gweddi a darlleniadau pwrpasol a James Evans oedd yr organydd.
Diolchodd Jean Williams iddynt am eu parodrwydd i drefnu’r Gwasanaeth Plygain yn flynyddol.
Bydd y plant yn mynd i weld y panto Aladdin yn Aberystwyth ddechrau Ionawr, gan edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad blynyddol yma ar eu calendr.
Bydd yr Ysgol Sul wedyn yn ail-gychwyn ar ddydd Sul, 13 Ionawr, ac mae croeso cynnes i unrhyw blentyn sydd am ymuno am 11yb ar fore Sul.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.