THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul 5 Mai, 10yb, Lyn Ebenezer – Gwasanaeth Undebol. Dim Ysgol Sul.
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 5 Mai, 10yb, Oedfa Undebol yn Rhydfendigaid gyda Lyn Ebenezer.
Eisteddfodau Teulu James
THE James Family Pantyfedwen Eisteddfodau will be held over the May Day Bank Holiday, 3 to 6 May at Bont Pavilion.
The Friday competing session will commence at 5pm, Saturday at 9.30am, with the Crowning of the Bard in the afternoon, and Monday at noon with the Chairing ceremony.
There will be an evening of competitions from the musicals and drama stage at 8pm on the Saturday evening, and ‘Talwrn y Beirdd’ with five teams of bards competing on the Sunday evening at 6.30pm, and a young person will be honoured with the ‘Young Person’s Trophy’.
For more information, contact Selwyn and Neli Jones 01974 831695, glanrhyd@btopenworld. com
Carnival
DURING a rehearsal at the Pavilion of the Flower Dance for the Bont Eisteddfod, the names of the queen and her attendants were drawn by the retiring queen, Megan Herberts.
The names drawn were: Queen – Mari Herberts; attendants – Emily Smith-Jones, Sara Pugh, Steffan Wilcox and Iestyn Jenkins.
The Bont Carnival will be held at the pavilion on Saturday, 13 July.
Meet the Pilgrims
AT Strata Florida Abbey on Sunday, 5 and Monday, 6 May (May-day Bank Holiday) you are invited to meet a band of pilgrims.
They will tell you about their travels and show you how they make their living. It will be a day for the whole family, from 10.30am until 4.30pm.
Normal admission to the Abbey applies. For more information see www. llyw.cymru/cadw
Rhydfendigaid
AR fore Sul, 21 Ebrill, cynhaliwyd Gwasanaeth Sul y Pasg gan ddisgyblion yr Ysgol Sul yn y capel.
Roedd yn braf gweld tyrfa deilwng wedi troi allan a chroesawodd Neli Jones bawb i’r oedfa.
Cymerwyd rhan gan Rhiannon, Emrys, Buddug ac Anest Jones, Delun a Guto Davies, Gwenno Humphreys, Cai a Jess Owen, Gwawr a Iestyn Jenkins, Megan a Mari Herberts, Gethin a Gwenno Fflur Evans, Caru Hunt, Saran a Mati Cerith, Ianto a Steffan Wilcocks, Elen Hughes a Rhys Williams.
Roedd yn hyfryd cael cwmni Anni a Ffredi Ebenezer, Mari Wyn Hughes, Alun Humphreys, Dwynwen Jones, Cari Davies ac Elan Haf Williams hefyd.
Gwnaed casgliad tuag at Gymorth Cristnogol gan Gwawr a Saran, a diolchwyd i bawb gan Jean Williams.
Roedd y Parch Lewis Wyn Daniel wedi cofio am y plant eleni eto, ac wedi anfon wyau Pasg i’w rhannu iddynt ar ddiwedd yr oedfa.
Cynhaliwyd Ffair Wanwyn lwyddiannus iawn yn Festri Rhydfendigaid o dan adain Cymdeithas y Chwiorydd fore Sadwrn, 13 Ebrill.
Roedd tyrfa dda wedi dod ynghyd a chafwyd llawer o hwyl yn cymdeithasu o amgylch y byrddau.
Y g?r gwadd oedd un o gyn-aelodau ffyddlon Rhydfendigaid, sef John Meredith, Blaenpennal, gynt o Strata House a Dyffryn Tawel.
Cyflwynwyd ef gan lywydd Cymdeithas y Chwiorydd, Neli Jones a chafwyd gan John ei atgofion pan yn blentyn ac yn oedolyn ifanc ym mhentre’r Bont.
Cafwyd aml i stori ddifyr ganddo. Roedd yn braf cael cwmni ei briod, Tegwen, yn ogystal â’i ffrind bore oes, Gareth Huws (Siop y Bakery gynt) a’i briod Morfudd, a oedd wedi dod fyny o Bentyrch.
Cyflwynwyd blodau fel gwerthfawrogiad i Tegwen ar ran y Chwiorydd gan Jên Ebenezer, a diolchodd Neli Jones i John am ei anerchiad ac am ei rodd hael tuag at y gronfa.
Tynnwyd y raffl, a’r enillwyr oedd: Raffl fawr – Gwenda Thomas, D J Tyres, Llion Jones, Thomas Price, Megan Herberts, Rosie Herberts, Mair Owen, James Evans, Alan T? Pella, Mair Botwood, Huw Evans, Lisa Owen, Lili Fflur a Ifan Pugh; Raffl Pengraig – Ifan Davies, Gwen Herberts, John Meredith, Joan Davies, Mair Lloyd, Merfyn Botwood a Ceinwen Goodwin; dyfalu pwysau’r gacen – Ann Jones.
Dydd Sul, 28 Ebrill, cynhaliwyd y Gymanfa Ganu yng Nghapel Bwlchgwynt, Tregaron a bu rhai o blant yr Ysgol Sul, sef Gwenno, Lleucu, Cain, Buddug ac Anest yn mwynhau ymuno yn y canu o dan arweiniad Gwyneth Davies, gyda athrawes yr Ysgol Sul, Neli Jones yn cyfeilio.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





-Rhun-ap-Iorwerth-MS-and-Llyr-Gruffydd-MS.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.