THE latest community news from Pontrhydfendigaid.
Merched y Wawr
CYNHALIWYD cyfarfod mis Hydref yn ystafell chwaraeon Neuadd Pantyfedwen nos Fawrth, 4 Hydref.
Croesawodd y llywydd, Neli Jones, bawb i gyfarfod cynta’r tymor a chafodd pawb gyfle i ymaelodi.
Roedd y noson yng ngofal Joan Davies, Llinos Jones a Margaret Jones, a Joan gyflwynodd y gwr gwadd am y noson, sef James Butler.
Mae James bellach yn byw yn y Bont ers deng mlynedd, yn rhedeg busnes weldio yn Ffair Rhos, ac yn gymeriad cyfarwydd a hoffus iawn yn yr ardal.
Bachgen o Ynysoedd y Falklands yw ‘Buts’ (fel ag y mae’n cael ei adnabod yn lleol).
Chafwyd ganddo hanes ei fagwraeth yno, a’i brofiadau erchyll yn ystod ei blentyndod adeg y rhyfel rhwng y Falklands ac Argentina yn yr 80au.
Dim ond enwau oedd Port Stanley, Y Malfinas, Goose Green a’r Belgrano i ni cyn y noson yma yng nghwmni James, ond daeth â’r cyfan yn fyw o flaen ein llygaid.
Mae’n edrych ymlaen nawr at deithio 8,000 o filltiroedd yn ôl i Ynysoedd y Falklands i ddathlu’r Nadolig yng nghwmni ei dad a gweddill y teulu, â’r wlad erbyn hyn yn llewyrchus a chyfoethog dros ben.
Talwyd y diolchiadau gan Clare Hughes, enillwyd gwobr y raffl gan James Butler a Joan, Llinos a Margaret oedd yng ngofal y te ar ddiwedd y noson.
Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Fawrth, 1 Tachwedd, gyda Gwenda Hughes, Jasmine Wilson a Mair Richards yng ngofal.
School
THE Ysgol Pontrhydfendigaid school’s Harvest Thanksgiving will be held at Carmel Baptist Chapel on Friday, 21 October at 1.30pm, and a MacMillan Coffee Afternoon will be held in the Vestry after the service.
The collection at the service, as well as the proceeds of the Coffee Afternoon will be donated to the MacMillan Appeal.
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 23 Hydref: 10yb, Cwrdd Gweddi. Dim Ysgol Sul.
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 23 Hydref: 2yp, Parch Andrew Lenny (Oedfa Gymun).
Services
STRATA Florida Churches (Church in Wales): Thursday, 20 October, 6pm, Harvest Thanksgiving with Rev Jenny Kimber. Sunday, 23 October, 2pm Evening Prayer at St Mary’s Church.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.