THE latest community news from Pontryhydfendigaid.

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 25 Rhagfyr, dim gwasanaeth.

Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 25 Rhagfyr, 9.30yb, Gwasanaeth Bore’r Nadolig.

Services

STRATA Florida Churches (Church in Wales): Saturday, 24 December (Christmas Eve), 10pm at St Mary’s Abbey Church, First Mass of Christ-mas.

Rhydfendigaid

AR ddydd Sul, 20 Tachwedd, gwahoddwyd plant yr Ysgol Sul i ganu carolau yn y farchnad Nadolig ym Mhafiliwn y Bont.Cafwyd hwyl dda ar y canu, a phlesiwyd y siopwyr a’r stondinwyr yn fawr gyda’r canu swynol. Cynhaliwyd gwasanaeth a sioe Nadolig plant Ysgol Sul Rhydfendigaid yn y capel ar fore Sul, 18 Rhagfyr.Roedd y seren Nadolig lachar yn ffenest y capel yn gosod y thema i’r sioe, a chroesawyd pawb gan y Parch Lewis Wyn Daniel cyn i’r plant gymryd at yr awenau i gyflwyno Dilyn y Seren.Cymerwyd rhan gan 23 o blant, sef: Dion Wyn (storïwr), Cari Davies (Mam), Dwynwen Jones, Rhiannon Jones a Megan Herberts (plant), Delun Davies (Mair), Cain Owen (Joseff), Saran Aur Cerith (Gabriel), Gwawr Jenkins, Buddug Jones, Anest Jones, Mati Briall Cerith a Jess Owen (Angylion), Guto Davies (Gwr y Llety), Lleucu Jones, Gwenno Evans, Iestyn Jenkins, Ianto Rhyd Wilcocks a Steffan Wilcocks (Bugeil-iaid), Gwenno Humphreys, Mari Herberts ac Emrys Jones (Doethion), a Gethin Evans (Herod).Roedd y sioe’n cynnwys defosiwn, drama gyfoes wedi ei gwau o amgylch stori’r geni, unawdau, deuawd, triawd, partion canu a chôr, gyda phob plentyn yn cymryd at ei ran o ddifri. Cafwyd anerchiad amserol gan Parch Lewis Wyn Daniel, a’r plant yn mwynhau’n ei gwmni fel arfer. Cyflwynodd anrhegion o Gristinglau i bob plentyn a oedd yn bresennol yn yr oedfa. Gwnaed casgliad tuag at ‘Childline’ NSPCC gan Dion a Cari.Ar ôl yr oedfa, croesawyd pawb i’r festri, i gael cyfle i gymdeithasu dros baned a mins peis. Talwyd ymweliad gan Sion Corn a rhannodd anrhegion i’r plant ar ran yr Ysgol Sul. Diolch i John Watkin am gynorthwyo Santa, ac hefyd am y rhodd o goeden Nadolig a oedd yn harddu’r sêt fawr eleni eto.Bydd yr Ysgol Sul yn ail-ddechrau ar ddydd Sul, 8 Ionawr, am 11yb fel arfer, ac mae yna groeso mawr i aelodau presennol ac i aelodau newydd hefyd i ymuno.Yna, y Sul canlynol, bydd yr Ysgol Sul, yn ôl y traddodiad erbyn hyn, yn mynd i weld y panto blynyddol yn Theatr y Werin, Aberystwyth. Dymuna athrawon yr Ysgol Sul ddiolch i’r plant am eu ffyddlondeb ac yn arbennig i’r rhieni am fod mor gefnogol bob amser.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]