THE latest community news from Pontrhydfendigaid.

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 30 Ebrill, 10yb, Oedfa Undebol o dan arweiniad Dafydd Iwan. Bydd plant yr Ysgol Sul yn ymuno gyda Dafydd i ganu dwy gân.Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 30 Ebrill, 2yp, y Parch Dafydd Henry Edwards.

Services

STRATA Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 30 April, 8.30am, Holy Eucharist at Dewi Sant Church.

Rhydfendigaid

CYNHALIWYD oedfa fendithiol iawn ar fore Sul ym mis Mawrth, sef oedfa i ddathlu 300 mlynedd geni’r Pêr Ganiedydd – William Williams, Pantycelyn.

Lyn Ebenezer oedd wrth y llyw, a chrëwyd naws arbennig i’r gwasanaeth Undebol, gydag eglwys y Bedyddwyr, Carmel yn ymuno.

Cafwyd anerchiad hyfryd gan Lyn, a sawl stori ddiddorol am ei arwr. Unwyd i ganu pedwar o’i hoff emynau o waith Pantycelyn yn ystod y gwasanaeth.

Bore Sadwrn, 8 Ebrill, cynhaliwyd Ffair Wanwyn Flynyddol Chwiorydd Rhydfendigaid yn Festri Rhydfendigaid.

Daeth tyrfa dda allan i gefnogi ar fore heulog braf, ac i weld Huw Lloyd, Caerdydd (Henfynachlog) yn agor y ffair yn swyddogol.

Cyflwynwyd Huw gan lywydd y Chwiory-dd, Neli Jones, cyn i Huw ddweud geiriau pwrpasol i ddatgan fod y ffair yn agored, gan annog pawb i wario ar y stondinau. Cyflwynwyd rhodd o wy Pasg iddo ar ran y Chwiorydd gan Mary Jones.

Cafwyd bore buddiol, a phawb wedi mwynhau’r gwmnïaeth. Diolchwyd i bawb a fu’n helpu, ac i bawb a gefnogodd mewn unrhyw fodd gan Neli Jones.

Enillwyr y raffl fawr oedd: Dai Lloyd Evans, Merfyn Botwood, Olwen Hughes, Emyr Anslow, Gwen Tyte, Gareth Owen, Cheryl Bulman, Evie d/o Cwm Meurig, Caren Morgans, Angharad Huws, Sonia Fletcher, Delfryn Owens a Mair Botwood.

Enillwyd gwobrau raffl teulu Pengraig gan Eluned Owen, Joan Evans, Lisa Owen, Gwen Herberts, Lyn Ebenezer a Mary Jones, a Clare Hughes enillodd y gacen ffrwythau am ddyfalu ei phwysau’n gywir.

Bore Sul y Pasg, cynhaliwyd oedfa yng ngofal plant yr Ysgol Sul yng nghwmni’r Parch Lewis Wyn Daniel. Croesawodd y parchedig bawb, gan nodi fod yna ymwelwyr wedi dod mor bell â Chaerdydd, Luton a’r Alban.

Roedd llawenydd bore Sul y Pasg yn cael ei gyfleu’n amlwg yn y gwasanaeth, a chymerwyd rhan gan Dion Wyn, Cari, Delun a Guto Davies, Dwynwen, Rhiannon, Emrys, Buddug ac Anest Jones, Megan a Mari Her-berts, Gwenno Humphreys, Saran Aur Cerith, Gwenno Evans, Lleucu Jones, Gwawr a Iestyn Jenkins, a Cain a Jess Owen, ac roedd yn hyfryd hefyd i gael cwmni Mared a Carys Owen, Alun Humphreys, ac Anni a Ffredi Ebenezer yn y gynulleidfa. Gwnaeth y plant i gyd eu gwaith gyda’r graen arferol.

Cafwyd anerchiad amserol gan y parchedig, a rhannodd anrhegion o wyau Pasg i’r holl blant a oedd yn bresennol – diolch iddo am ei haelioni.

Gwnaed casgliad tuag at Apêl Corwynt Cariad Cymorth Cristnogol, sef apêl y Presbyteriaid am 2017, gan Saran a Delun.

Ddydd Sul, 23 Ebrill, bu plant o’r Ysgol Sul yn y Gymanfa Ganu yn Nhregaron, gan fwynhau ymuno â phlant Ysgol Sul Tregaron yn y canu o dan arweiniad y Parch Ganon Aled Williams. Y Sul nesa, bydd y plant yn ymuno â Dafydd i ganu yn y gwasanaeth Undebol o dan ei arweiniad yn Rhydfendigaid am 10yb.

Music exams

THE following were successful in the Associated Board of the Royal Schools of Music’s examinations. Theory: Grade 1 – Elin Williams, Tregaron (with Distinction). Grade 2 – Miriam Llwyd Davies, Llandre (with Merit), Gwenno Humphreys, Gwnnws (with Merit) and Jessica Kemp, Swyddffynnon (with Merit). Grade 3 – Gwenno Dark, Tregaron and Carwyn Davies, New Cross (with Merit).

Piano exams: Prep test – Delun Davies, Pontrhydfendigaid; Guto Davies, Pontrhydfendigaid; Alfie Houghton, Ystrad Meurig and Lisa Grug James, Bronant. Grade 1 – Elliw Rees Jenkins, Devil’s Bridge. Grade 3 – Gwenno Humphreys, Gwnnws and Jessica Kemp, Swyddffynnon. Grade 5 – Siwan Aur George, Lledrod.

WI

APRIL’S meeting was a happy occasion. Members were looking forward to Easter and spring, with trips and special events planned throughout the coming months.

The special event of this meeting was a party to celebrate member Clare Bloomer’s 80th birthday, with flowers and cake. The speaker was Lynne Castlemaine, with all members taking part in her ‘Gentle Yoga’ session. May’s meeting will be a farm visit.

Eisteddfodau a Chyngerdd

CYNHELIR Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen ym Mhafiliwn y Bont dros y penwythnos 28 Ebrill hyd 1 Mai, gyda Thalwrn y Beirdd ym mar y pafiliwn ar y dydd Sul am 5.30yh yng ngofal y Prifardd Idris Reynolds.

Llywydd yr wyl eleni fydd Mair Jones, Dolawel. Am ragor o fanylion, cysylltwch â’r ysgrifenyddion cyffredinol – Selwyn a Neli Jones ar 01974 831695 neu glanrhyd@ btopenworld.com.

Bydd Cyngerdd Merêd, a drefnir gan Gymdeithas William Salesbury mewn cydweithrediad â phwyllgor Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen, yn cael ei gynnal am yr ail flwyddyn ym Mhafiliwn y Bont ar nos Sul yr eisteddfodau, sef nos Sul, 30 Ebrill, am 7.30yh.

Yn cymryd rhan eleni fydd Côr Glanaethwy, Dai Jones Llanilar, Meinir Gwilym, Gwenan Gibbard a Bois y Fro. Mae’r tocynnau ar werth yn awr am £10, a gellir eu cael o Siop y Bont; Selwyn a Neli Jones, Glanrhyd; Siop Anrhegaron yn Nhregaron; neu Siop y Pethe neu Siop Inc, Aberystwyth. Bydd tocynnau ar werth wrth y drws ar y noson hefyd.

Ar y bore Sul am 10yb, bydd Gwasanaeth Undebol yn cael ei gynnal yng Nghapel Rhydfendigaid fel rhan o raglen y dydd, gyda Dafydd Iwan yn pregethu, a bydd plant yr Ysgol Sul yn ymuno i ganu dwy gân. Yn y prynhawn am 1yp, bydd Rhys Mwyn yr archeolegwr yn arwain taith o amgylch Abaty Ystrad Fflur.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â [email protected]

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]