THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dim gwasanaethau nac Ysgol Sul yn ystod mis Awst.
Carmel (Bedyddwyr): Dim gwasanaethau ym mis Awst.
Treialon Cwn Defaid Ffair Rhos
CYNHALIWYD y treialon eleni ar 23 Awst ar gaeau Tynddol.
Y beirniad oedd Bryan Pugh o Nantmel, Llandrindod. Cafwyd cystadlu brwd am dros naw awr yn ddi-dor.
Llywydd y treialon eleni oedd Joan Evans, Penrhos, Swyddffynnon (Crud-yr-Awel gynt) a chyflwynodd dlws o gloc hardd i’r buddugol yn yr adran agored genedlaethol er cof am ei phriod, Gwilym Lloyd Evans.
Braf oedd canfod ar ddiwedd y cystadlu mai perthynas agos i Gwilym, sef ei nai Irwel Evans oedd wedi cipio’r tlws.
Bu bron i Irwel gipio’r dwbl gyda’i gi Bob, gan iddo golli’r cwpan yn yr adran agored dull De Cymru o un pwynt yn unig i I B Jones.
Dyma’r prif enillwyr y treialon: Agored dull cenedlaethol: 1, Irwel Evans gyda Bob (colli 9 pwynt).
Agored dull De Cymru: 1, I B Jones gyda Tim (colli 9 pwynt).
Mae’r pwyllgor bach gweithgar yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth, yn enwedig i’r holl gyfrannwyr ariannol sy’n sicrhau llwyddiant y treialon yn flynyddol.
Bob blwyddyn anfonir cyfraniad ariannol tuag at elusen neu achos da, ac eleni cyflwynwyd y swm o £100.00 i Fwrdd Iechyd Hywel Dda ac yn arbennig i Dy Gofal Geraint, Ysbyty Bronglais, lle bydd cleifion, eu teuluoedd a’u ffrindiau’n derbyn y gwasanaeth gorau posibl gan y staff clinigol.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.