THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Gwasanaethau
Rhydfendigaid (Presbyteriaid): Dydd Sul, 15 Hydref – Dim Ysgol Sul. 2yp – Ymuno â Charmel am yr Oedfa Undebol gyda’r Parch Andrew Lenny.
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 15 Hydref – 2yp – Parch Andrew Lenny (Oedfa Undebol).
Services
Strata Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 15 October, 8.30am – Holy Eucharist at St David’s Church. Tuesday, 24 October, 6pm – Harvest Service. Last service at St David’s Church before closure.
Merched y Wawr
Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r tymor gan Ferched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch nos Fawrth, 3 Hydref yn Ystafell Chwaraeon Neuadd Pantyfedwen.
Roedd y noson yng ngofal Ina Morgans ac Ann Arch, a phwy’n well i agor y tymor na Gwenan, merch Ann. Mae Gwenan yn ymddiddori mewn creu gemwaith, a chafodd yr aelodau i gyd gyfle i greu mwclis o’u dewis, ac roedd yn ddiddorol i weld y gwahanol emwaith hyfryd – pob un yn creu ei steil ei hun. Roedd y merched i gyd yn edrych yn smart iawn yn eu mwclis yn mynd tua thre! Cyflwynwyd Gwenan gan Joan Davies, y llywydd newydd, a llongyfarchodd Ann Arch ar ddod yn famgu unwaith yn rhagor. Talwyd y diolchiadau gan Jên Ebenezer. Roedd y te wedi ei baratoi gan Ina ac Ann, ac enillwyd gwobrau’r raffl gan Gwenda Hughes, Del Sidford, Jên Ebenezer a Neli Jones.
Rhydfendigaid
Cafwyd cyfle i ymweld â Soar y Mynydd ddwy waith eleni, y tro cyntaf ym mis Mehefin i wrando ar y Parch Irfon Roberts yn pregethu, ac yna ddechrau mis Hydref, un o aelodau Rhydfendigaid, sef Lyn Ebenezer yn pregethu. Ar ôl y ddau wasanaeth, cafwyd cyfle i gymdeithasu dros de prynhawn hyfryd yn Y Talbot, Tregaron.
Fore Sul, 1 Hydref, cynhaliwyd Cwrdd Diolchgarwch y plant yn y capel, yng nghwmni’r Parch Lewis Wyn Daniel. Roedd y capel wedi ei addurno gyda llysiau, ffrwythau, blodau a sypiau llafur, a chymerwyd rhan gan 22 o blant yr Ysgol Sul, sef Dion Wyn, Cari, Delun a Guto Davies, Gethin a Gwenno Evans, Dwynwen, Rhiannon,Emrys, Buddug ac Anest Jones, Megan a Mari Herberts, Gwenno Humphreys, Lleucu Jones, Cain a Jess Owen, Gwawr a Iestyn Jenkins, Caio McParthlain, Elen Hughes a Ianto Rhyd Wilcocks. Roedd yn hyfryd gweld y sêt fawr yn orlawn o blant.
Cafwyd anerchiad gan y Parch Lewis Wyn Daniel gyda’r plant yn ymateb yn dda iddo fel arfer. Diolchwyd i bawb gan Jean Williams, a gwnaed casgliad tuag at apêl y Cyfundeb, Corwynt Cariad, gan Lleucu a Gwenno.
Prynhawn y Sul canlynol cynhaliwyd y Cwrdd Diolchgarwch cyffredinol gyda’r Parch J E Wynne Davies, Aberystwyth yn pregethu. Cafwyd oedfa hyfryd a mwynhawyd te a chymdeithasu yn y festri i ddiweddu’r prynhawn. Diolch i bawb am y gefnogaeth.
Hallowe’en
A Hallowe’en Disco will be held on Tuesday, 31 October at Pantyfedwen Hall between 4pm and 6pm.
There will be six dressing up categories, first and second prizes will be awarded, and first and second for the best design of a pumpkin (one category only). The judges will be Roland Bago, Ellen Yetton and Lili Fflur Bago of the Red Lion. Entrance will be £3, to include a hot dog and drinks of squash.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.