THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): dydd Sul, 12 Tachwedd – 10.45yb, Gwasanaeth Sul y Cofio ger y Gofgolofn. Dim Ysgol Sul.
Carmel (Bedyddwyr): dydd Sul, 12 Tachwedd – 10.45yb, Oedfa Sul y Cofio ger y Gofgolofn.
Services
STRATA Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 12 November, 10am, Morning Prayer at St Mary’s Church, followed at 10.45am by the service at the Memorial in Bont.
Welsh Whisperer
MAE pwyllgor y Carnifal yn dathlu 10 mlynedd ers ail-sefydlu’r Carnifal yn y Bont, trwy gynnal noson yng nghwmni’r Welsh Whisperer yn Neuadd Pantyfedwen nos Wener, 10 Tachwedd am 7.30yh.
Bydd arddangosfa Tân Gwyllt hefyd yn ystod y noson, ynghyd â lluniaeth a bar.
Tâl mynediad fydd £7 i oedolion, £5 i blant Uwchradd a £3 i blant Cynradd.
Christmas Market
THE Bont Christmas Market will be held at the pavilion on Sunday, 26 November, from 10.30am – 4.30pm.
There will be various craft and gift stalls, Christmas entertainment, demonstrations, food and drink.
Admission will be £3 (including Mulled Wine) for adults, with children being admitted free of charge.
Profits will be donated to charities.
For more information please contact [email protected]
Cinio ‘Steddfod
BYDD Cinio Blynyddol Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen yn cael ei gynnal yn y pafiliwn, nos Sadwrn, 18 Tachwedd, am 7.30yh.
Rhowch eich enwau i‘r ysgrifenyddion Selwyn a Neli Jones – 01974 831695, [email protected] mor fuan â phosib.
Rhydfendigaid
AR ôl yr oedfa fore Sul, 5 Tachwedd, aeth llond bws bach o aelodau Rhydfendigaid a ffrindiau i ymweld â Phantycelyn, cartref y Pêr-ganiedydd William Williams, gan fod eleni yn dri-chanmlwyddiant ei eni.
Cafwyd byrbryd amser cinio yn Llanymddyfri, cyn symud ymlaen i’r eglwys, a’r hanesydd lleol, Dai Gealy yn tywys pawb oddi amgylch yr eglwys hardd, lle roedd desg y Pêr-ganiedydd, ac i weld ei fedd yn y fynwent yno.
Canwyd dau o emynau Williams yn yr eglwys, gyda Neli Jones yn cyfeilio ar yr organ nodedig a oedd yno.
Yna aed ymlaen i Bantycelyn a chael croeso mawr gan ddisgynyddion Williams, Cecil a Cynthia yn y ffermdy, cael tipyn o hanes y teulu a gweld yr arddangosfa fach a oedd ganddynt yn y ty cyn i’r ddau ohonynt arwain pawb lawr y ffordd i ymweld â chapel William Williams ym Mhentref Ty Gwyn.
I gloi diwrnod hynod o ddiddorol, mwynhawyd Cinio Dydd Sul blasus yng Ngwesty’r Castle Green yn Llanbed, gan gael croeso twymgalon yno hefyd gan y perchnogion, Mavis a Brian.
Talwyd diolchiadau gan Charles Arch a Lyn Ebenezer yn ystod y dydd i’r tywysydd hawddgar Dai Gealy, teulu Pantycelyn, i Clare Huws am ein gyrru gofalus fel arfer, i Mavis, Brian a staff y Castle Green ac i Neli Jones am drefnu’r diwrnod.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]




.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.