THE latest community news from Pontrhydfendigaid
Merched y Wawr
CYNHALIWYD noson gan Ferched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch yn Ystafell Chwaraeon Neuadd Pantyfedwen nos Fawrth, 7 Tachwedd.
Roedd y noson yng ngofal Eleri Arch, Jasmine Wilson a Gwenda Hughes, a hwy hefyd oedd yng ngofal y lluniaeth. Cyflwynwyd y wraig wadd gan Jasmine, sef Catrin Lloyd, yn wreiddiol o Lwyncelyn, a oedd wedi dod gyda’i ffrind o’r Bont, Gwenan Arch.
Ar ôl gyrfa lwyddiannus iawn gyda chwmni Acen fel tiwtor Cymraeg i Oedolion, gweithio ar brosiect Gwefan Dysgwyr yn S4C, Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd yng Ngogledd Cymru, Rheolwr Cyflogi Staff ym Mhrifysgol Caerdydd, mae yn awr ar staff Cyngor Sir Ceredigion fel Swyddog Hyfforddiant, ac yn byw yn Cross Inn ger Cei Newydd.
Trwy’r swydd mae ynddo, cafodd gyfle i hyfforddi fel Hyrwyddwr Ffrindiau Dementia sydd wedi ei galluogi i arwain sesiynnau Gwybodaeth Ffrindiau Dementia, a dyna oedd testun ei sgwrs a oedd yn agoriad llygad i bob un a oedd yn bresennol.
Diolchwyd iddi gan Jên Ebenezer.
Enillwyd y gwobrau’r raffl gan Jasmine Wilson a Gwenan Arch.
Lansio Llyfr
BYDD Lyn Ebenezer yn lansio ei gyfrol ddiweddaraf, Y Meini Llafar yn Neuadd Pantyfedwen ar nos Wener, 1 Rhagfyr am 7yh.
Bydd y noson yng nghwmni Lyn Ebenezer a Selwyn Jones, gydag adloniant byw a gwin ar gael.
Mae’r mynediad am ddim.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â [email protected] neu 01970 832304.
Gwasanaethau
RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 26 Tachwedd - 10yb, Parch Elwyn Pryse, Bow Street; 11yb, Ysgol Sul; 11.45yb, Plant yr Ysgol Sul yn canu carolau yn y Farchnad Nadolig yn y Pafiliwn.
Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 26 Tachwedd – 2yp, Oedfa yng nghwmni teulu Pantclyd.
Services
STRATA Florida Churches (Church in Wales): Sunday, 26 November – 9.30am, Holy Eucharist with Rev Bill Fillery at St Mary’s Strata Florida Church.
Combined service with St John’s Church, Ystrad Meurig.
Christmas Fair
THE annual Christmas Market will be held at Bont Pavilion on Sunday, 26 November, from 10.30am until 4.30pm.
For further information, contact [email protected]
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.