THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sadwrn, 16 Rhagfyr – 2yp Ymarfer Gwasanaeth Nadolig i blant yr Ysgol Sul yn y capel. Dydd Sul, 17 Rhagfyr – 10yb Huw Roderick. 11yb Ysgol Sul.

Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 17 Rhagfyr – 4yp Parch Roger Ellis Humphreys.

Services

ST Mary’s Church, Strata Florida (Church in Wales): Sunday, 16 December – 9.45am Holy Eucharist.

Christmas Show

THE Bont School’s Christmas Show will be held at Pantyfeden Hall on Wednesday, 13 December at 6.30pm, and a warm welcome is extended to all.

Merched y Wawr

CYNHALIODD Merched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch gyfarfod mis Rhagfyr ar nos Fawrth y 5ed yn Ystafell Chwaraeon Neuadd Pantyfedwen. Roedd y noson yng ngofal Joan Davies, Llinos Jones a Margaret Jones, a chan ei bod yn dymor y Nadolig, croesawyd pawb gyda diod o win poeth. Cyflwynodd y llywydd, Joan Davies y ddwy wraig wadd am y noson, sef Angela Ellis a’i merch Christa o Bontrhydygroes. Mae busnes gwneud torchau Nadolig gan deulu Ellis, ac roedd yn ddiddorol clywed yr hanes gan y ddwy wraig wadd. Mae’r adeg yma o’r flwyddyn yn brysur iawn iddyn nhw, gan eu bod yn paratoi cannoedd o dorchau ac addurniadau bwrdd ar gyfer y farchnad Nadolig, gan ddosbarthu i bob cwr o’r wlad ac yn allforio hefyd. Cafwyd blas ar dalent Christa pan gafwyd ganddi arddangosiad o sut i greu torch Nadolig brydferth, a diolch i’r ddwy am roi’r dorch yn wobr ar y raffl. Talwyd y diolchiadau gan Neli Jones, ac enillwyd gwobrau’r raffl gan Llinos Jones, Gwenda Hughes a Joan Davies. Mwynhawyd paned a danteithion blasus i gloi’r noson, wedi eu paratoi gan Joan, Llinos a Margaret.

Dymunodd Joan, y Llywydd, Nadolig Llawen i bawb.

Edrychir ymlaen yn awr at noson mis Ionawr, pryd y bydd yr aelodau a ffrindiau yn dathlu dydd Santes Dwynwen gyda chinio ddiwedd y mis.

Lansio Llyfr

CYNHALIWYD noson arbennig yn Neuadd Pantyfedwen ar nos Wener, 1 Rhagfyr, pryd y daeth teulu a ffrindiau ynghyd i lansiad 98fed cyfrol Lyn Ebenezer – Y Meini Llafar, a gyhoeddwyd gan Wasg y Lolfa. Yn y gyfrol mae Lyn yn edrych yn ôl ar ei fywyd ac yn sôn am y cymeriadau yn ei fro enedigol yn y Bont, ac am nifer o’i arwyr. Ceir yn y gyfrol hefyd y gerdd i’w Wncwl Dai a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerdd a ddaeth yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017. Cydlynwyd y noson gan Selwyn Jones, a chafwyd cyfle i ofyn cwestiynau i Lyn ynglyn â’r gyfrol.

Cafwyd adloniant a fwynhawyd gan bawb yn fawr iawn, yng nghwmni Efan Williams, Dafydd Jones a Carys Ann Davies gyda Neli Jones yn cyfeilio. Cafwyd cyfle i gymdeithasu dros wydraid, paned a lluniaeth i gloi’r noson hyfryd.

Twilight Trails

THE last event of this Coed y Bont season will be held at the woodland on Monday, 18 December between 4pm and 5.30pm. Always a popular occasion, this event begins with a short walk on the easy woodland paths, accompanied by story-telling and carols by the Christmas tree, before convening back at the shelter and campfire in the glade for toasted marshmallows, hot dogs and mince pies. This is an event especially for families but all young children must have an adult with them. Bring a torch and wrap up warm! Meet at the woodland car park at 4pm.

In case of bad weather check on Coed y Bont Facebook or phone 01974 831639 or 01974 831300.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]