THE latest community news from Pontrhydfendigaid

Eisteddfod

CYNHELIR Eisteddfod Swyddffynnon yn Neuadd Pantyfedwen nos Wener, 2 Mawrth. Bydd y cystadlu yn dechrau am 4.30yp.

Am ragor o fanylion cysylltwch â’r ysgrifennydd Annwen Isaac ar 01974 831668.

Merched y Wawr

GWEITHGAREDD gyntaf y flwyddyn newydd gan Ferched y Wawr Ffair Rhos a’r Cylch oedd dathlu Gwyl Santes Dwynwen gyda chinio blasus iawn yn y Castle Green yn Llanbed, lle derbyniwyd croeso twymgalon gan Mavis a’i theulu.

Croesawodd y llywydd, Joan Davies bawb, yn aelodau a ffrindiau, a hi hefyd draddododd y gras cyn bwyta.

Enillwyd gwobrau’r raffl gan Elen Jones, Ina Morgans, Gwenda Hughes, Llinos Jones ac Ann Arch.

Diolchodd Joan i staff y Castle Green ac i Eifion, gyrrwr y bws.

Cynhaliwyd cyfarfod mis Chwefror, sef noson yng ngofal Myfanwy Huws a Del Harries yn Ystafell Chwaraeon y Neuadd ar nos Fawrth y 6ed.

Croesawodd y llywydd Joan Davies bawb i’r cyfarfod a chyflwynwyd y wraig wadd, sef yr actores Sue Jones Davies o Aberystwyth gan Del.

Treuliwyd orig ddifyr iawn yng nghwmni Sue yn gwneud Ioga tyner, ffurf ardderchog o ymlacio’r corff a’r meddwl.

Diolchwyd iddi gan Myfanwy.

Enillwyr y gwobrau raffl oedd Ann Williams, Myfanwy Huws, Neli Jones a Sue Jones Davies.

Edrychir ymlaen at nos Fawrth, 6 Mawrth, pryd y bydd y gangen yn dathlu Gwyl Ddewi gyda noson yng nghwmni Côr Merched Soar a changhennau Mynach a Llanafan o Ferched y Wawr yn Neuadd Pantyfedwen.

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid): Dydd Sul, 18 Chwefror: 10yb, Cwrdd Gweddi Undebol; dim Ysgol Sul; 6yh, Cyfarfod o’r Ofalaeth (Rhydfendigaid, Caradog a Swyddffynnon) yng Nghapel Rhydfendigaid.

Carmel (Bedyddwyr): Dydd Sul, 18 Chwefror: 10yb, Cwrdd Gweddi Undebol yn Rhydfendigaid.

The Storm Cycle

NATIONAL Theatre Wales will be staging Storm 1: Nothing Remains The Same, created by Mike Pearson and Mike Brookes at the Pafiliwn on 15, 16 and 17 February at 8pm.

Storm 1 is one of a series of six productions by National Theatre Wales, and these multi-media productions will be performed at different locations across Wales during the next few years.

The performance at the Pavilion will be a seated, indoor performance, much of which will be in total darkness.

However, the performance does contain an outdoor element, so please come dressed for the Welsh weather in February!

To book tickets, contact [email protected] or call 02920 371689.

Ysgol Feithrin

BYDD yr Ysgol Feithrin yn cynnal bore Cacen a Chân yn Neuadd Pantyfedwen ar ddydd Gwener, 2 Mawrth am 10yb.

Bydd yr adloniant gan blant bach yr Ysgol Feithrin.

Yn ystod y bore, tynnir raffl gynta Clwb 200 yr Ysgol Feithrin am 2018.

Croeso cynnes i bawb.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]