THE latest community news from Pontsian

CFfI

DAETH llwyddiant i’r clwb yn yr Eisteddfod Sir, gyda’r côr yn dod yn gyntaf.

Bu dathlu gyda Tân Gwyllt yn y neuadd at nos Lun, 6 Tachwedd.

Pob lwc iddynt yn Eisteddfod Cymru yn Llandudno.

Ffair Nadolig

FE’I cynhelir ar ddydd Sul, 19 Tachwedd, rhwng 10.30yb a 3yp; gyda dros 30 o stondinau crefftau amrywiol a chynnyrch lleol.

Bydd yr elw yn mynd tuag at brynu teclynnau cyfathrebu i’r Adran Iaith a Llefaredd Hywel Dda.

Mynediad: £3 i oedolion a £1 i blant uwchradd, sy’n cynnwys diod twym a mins pei; dewch yn llu.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]