THE latest community news from Porthmadog

Clwb y Berch

CROESAWODD y llywydd yr aelodau a chawsom brynhawn difyr o adloniant yng nghwmni Mem Owen, Chwilog ar 21 Mehefin.

Diolchwyd iddi am brynhawn hwyliog gan Evan. Diolchwyd i Myfi a Diana am ddarparu paned.

Ein cyfarfod nesaf fydd cinio allan yn nhafarn Glyn-y-Weddw, Llanbedrog ar ddydd Iau, 19 Gorffennaf.

Manylion gan Ann, Pwllheli 612 007.

War at Sea

TO celebrate the centennial of the end of the Great War, Porthmadog Maritime Museum will be hosting a special display to commemorate Welsh men lost at sea.

This is part of a major project by the Royal Commission of Historic Monuments and others and there will be displays hosted by all museums throughout Wales.

The display will open at noon on Monday, 23 July, and can be seen every day 12pm-4pm through the summer to autumn half term holiday.

Merched y Wawr

I ORFFEN ein tymor eleni, penderfynwyd mynd am drip ar y trên i Aberdyfi, ac yn wir cawson ddiwrnod i’w gofio.

Roedd y golygfeydd ar hyd yr arfordir yn ogoneddus a chroesi’r bont dros y Fawddwy yn brofiad i’w gofio.

Tref fechan Aberdyfi oedd ein cyrchfan ond buom yn ciniawa mewn gwesty ym Mhenhelyg a chinio da oedd o hefyd.

Manteisiodd Rowena, ein darpar lywydd ar y cyfle i ddiolch i’r pwyllgor ac i bawb a fu’n gyfrifol am y nosweithau difyr a gawsom y tymor diwetha.

Diolchodd hefyd i Nia, ein hysgrifennydd diwyd am ei holl waith ac am drefnu’r trip.

Llongyfarchwyd Ifanwy am dderbyn anrhydedd arbennig gan Gymdeithas y Cymod; bu hi, a’r Parch Islwyn Lake yn aelodau ers 60 mlynedd a chredir mai nhw yw’r aelodau hynaf yng Nghymru.

Mae cinio Owain Glyndwr yn cael ei gynnal eleni yng Nghlwb Golff Morfa Bychan ar 14 Medi.

Enwau i Hefina os gwelwch yn dda, cyn diwedd Awst.

Bydd croeso cynnes i aelodau newydd i ymuno â ni.

Bydd y cyfarfod agoriadol ar nos Fawrth, 18 Medi.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]