THE latest community news from Porthmadog
Merched y Wawr
BWRLWM, hwyl ac addysg gafwyd yn ein cyfarfod mis Hydref.
Croesawyd nifer dda o siaradwyr newydd i’n plith gan ein llywydd Rowena, a braf oedd eu clywed yn sgwrsio yn y Gymraeg mor hyderus.
Cyfeiriodd Rowena at y cleifion gan ddymuno adferiad buan iddynt i gyd.
Ein g?r gwadd oedd Hywyn Williams, swyddog addysg yn Nhanybwlch.
Mwynhawyd ei sgwrs am Barc Cenedlaethol Eryri yn fawr.
Cyflwynodd Hywyn ei destun yngh?d â lluniau a rhan o hen ffilm ddiddorol mewn dull clir ac egnïol.
Fedrech chi ddim peidio â gwrando’n astud arno.
Dyma addysgwr o’i gorun i’w sawdl.
Amlygwyd y ffaith bod cryn newid wedi bod yn y parc yn enwedig yn yr agwedd at Y Gymraeg a bod Parc Cenedlaethol Eryri yn unigryw.
“Y parc yma yw’r unig un sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg a rydym yn ymfalchïo yn hynny”, meddai Hywyn.
Mawr oedd dadlau a chwerthin aelodau’r gwahanol dimau wrth iddynt geisio ateb cwestiynau’r cwis a baratodd Hywyn ar ein cyfer ar ffurf “Pwy sy’n dymuno bod yn filiwnydd?”
Diolchwyd i Hywyn gan Ann am noson addysgiadol, llawn hiwmor a hwyl ac i bawb oedd wedi cynorthwyo.
Edrychwn ymlaen at ein cyfarfod nesaf, 20 Tachwedd pan fydd Vicki Hinde yn rhoi sgwrs am Sebon.
Penamser Estate Chapel
AT 10am is the main preaching service with bilingual Communion; 11.20am, Sunday school (for all ages); 12.10pm, section meetings (men, women, youth, children).
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.