THE latest community news from Porthmadog
Cymdeithas Undebol Capel y Porth
AR 12 Tachwedd croesawodd y Parch Chris Prew bedwar o banelwyr i Gapel y Porth a’u gwaith hwy oedd rhoi eu barn a siarad o’u profiad ar oddeutu 10 o gwestiynau a ofynwyd gan y Gweinidog.
Megan Lloyd Williams, Cefn Coch, Glenda Birk, o Borthmadog, y Canon Dylan Williams, a Glyn Williams, Borth y Gest oedd y panelwyr.
‘Roedd nifer o’r cwestiynau yn ysgafn fel ‘sut fyddwch yn ymlacio’, ‘eich hoff lyfr’, ‘cael pryd bwyd gydag enwogyn’, ‘a gafoch eich dal mewn sefyllfa ddoniol/embaras erioed ‘ ac roedd rhai o’r atebion yn rhyfeddol – Glyn Williams wedi teithio i Lundain i gael bwyd efo Richard Burton ac Elizabeth Taylor.
‘Roedd hefyd ambell gwestiwn mwy dwys fel ‘beth hoffech gael gwared ohono yn y byd hwn’ neu ‘sut fyddech yn awgrymu sut i sefydlu miliwn o siaradwyr Cymraeg’. ‘Roedd yr atebion yr un mor dreiddgar a ddeifiol gan y panelwyr a chafwyd noson ddifyr yn gwrando arnynt. Diolchwyd gan Chris a mwynhawyd y baned gan y chwiorydd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]