THE latest community news from Porthmadog

Clwb y Deillion

YN y Ganolfan yng ngwres braf haul y gwanwyn cafwyd orig bleserus yng nghwmni Dwynwen Pennant sy’n ffisiotherapydd gyda’r bwrdd iechyd.

Bu’n olrhain hanes ei bywyd o’i phlentyndod ar fferm yn Rhoslan i fynd i’r coleg i hyfforddi fel athrawes ymarfer corff gan weithio am rai blynyddoedd yn Llundain.

Yn ddiweddarach symudodd i swydd Hereford ond arall gyfeirio fu ei hanes a mynd yn ôl i’r coleg i ddilyn cwrs ffisiotherapi. Y mae wrth ei bodd yn ei gwaith yn cynghori a rhoi triniaethau mewn sawl meddygfa yn Nwyfor gan ei bod rwan yn ôl yn byw yn ei milltir sgwar. Dangosodd i ni ychydig o ymarferionddim byd yn rhy gymleth - pawb i wneud ychydig bob dydd yn ôl ei allu.

Tips bendithiol iawn. oherwydd tydi segura drwy’r amser ddim yn lles! Diolch o galon iddi am bnawn difyr dros ben ac i Gill a’r tîm am y te bendigedig. Bu rhai o’r pwyllgor yn ymweld â’r cleifion gan anfon cofion y clwb atynt. Bu rhai yn dathlu penblwyddi go arbennig - da iawn nhw ac eraill wedi mudo i Hafod y Gest. Dymunwn y gorau iddynt oll.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]