THE latest community news from around Porthmadog.

Contact the Elderly Group

THE Porthmadog Contact the Elderly Group, who aim to brighten the lives of lonely elderly folk in the community, had a day out on the Ffestiniog Railway (pictured). The Victorian theme of the weekend added to the fun.

The group is seeking more elderly guests to join them on their monthly outings. Introductions should be given to Simon Kenyon on 01766 238349.

Cymdeithas Undebol Capel y Porth

AR 10 Hydref, cafwyd Cyfarfod Agoriadol y Gymdeithas a chroesawyd côr Cana Mi Gei gan y cadeirydd.

Sefydlwyd y côr yma gan Ann Jones oddeutu saith mlynedd yn ôl ac mae nifer o’r aelodau yn wynebau cyfarwydd ac yn hannu o ardaloedd Porthmadog, Talsarnau, Harlech a Dyffryn. Y gyfeilyddes oedd Elin Williams o Ddyffryn Ardudwy.

Cafodd y gynnulleidfa eu gwefreiddio gan sain arbennig y merched, dan faton meistrolgar Ann, a chafwyd cymeradwyaeth arbennig i Calon Lân (Alaw Rose) a’r Byd yn Un i ddiweddu.

Roedd gan y côr unawdydd sef Treflyn Jones. Mae Treflyn wedi mwynhau llwyddiant ar lwyfan ein prifwyl a chawsom berfformiad yr un mor gofiadwy ganddo.

Talwyd y diolchiadau gan Christopher Prew a mwynhawyd baned ardderchog ar ddiwedd y noson.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]