The latest news from around Porthmadog

Cymdeithas Lenyddol Undebol Capel y Porth

CROESAWYD yr hanesydd John Dilwyn Williams i’n plith gan Selwyn Griffith ar 24 Hydref. Testun y sgwrs oedd Owen Jones, brawd i hen daid John Dilwyn a aeth, pan yn 23 oed, ar yr SS Minnesota i Efrog Newydd yn 1843 ac oddi yno i Kansas i weithio ar ffermydd a berchnogid gan amlaf gan Gymry. Am y 50 mlynedd nesa bu’n crwydro’n helaeth, hela’r byf-falo, gan gymryd rhan anturus yn natblygiad y Gorllewin Gwyllt.Roedd y llu o lythyrau a yrrwyd yn ôl i Lanystumdwy yn rhoi hanes difyr yr anturiaethwr. Roedd John yn lwcus fod ffotograffydd yn y teulu a chafwyd toreth o hen lu-niau yn ogystal. Difyr oedd hanes John yn mynd i America i gyfarfod â’r myrdd o ddisgynyddion.Noson wirioneddol ddifyr wedi ei chyflwyno’n feistrolgar.Diolch i’r chwiorydd am y baned ar y diwedd.

Merched y Wawr

NOS FAWRTH, 18 Hydref, yn Ystafell Glaslyn, y Ganolfan, treuliwyd orig ddifyr iawn yng nghwmni Tweli Griffiths, y newyddiadurwr a’r awdur adnabyddus. Trafododd am ei yrfa anturus; fel y soniai yn ei lyfr Yn ei Chanol Hi, ymwelodd â llawer o wledydd y byd ar adegau peryglus iawn, gan gyfarfod ag amryw o wyr blaenllaw’r gwledydd fel Gadaffi, Mugabe a Fidel Castro. Un o’i brif ddiddordebau yn ei amser rhydd yw consurio a dangosodd ei sgiliau mewn ffordd gelfydd iawn a llawn hiwmor. Noson arbennig o ddifyr yn cynnwys y llon a’r lleddf. Llywyddwyd gan Ann Trefor Jones a Norman Emery a thalwyd y diolchiadau gan Hefina Jones. Enillydd y raffl oedd Penny Malec. Cawsom gwmni dwy gangen arall, sef Go-lan a Nantgwynant a mwynhawyd eu cwmni. Cofiwch am y noson goffi, 25 Tachwedd.

The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints

THIS Sunday in Penamser Estate chapel 10am main service (with bilingual communion); 11.20am, Gospel Study (Sunday School for all ages); 12.10pm, section meetings (men, women, youth, children).