THE latest community news from Porthmasog.

Cymdeithas Undebol Capel y Porth

MWYNHAWYD swper ddiwedd tymor gan y Gymdeithas ar 24 Mawrth yng Nghlwb Golff Morfa Bychan.

Roedd safon y bwyd yn uchel fel arfer a diolchwyd yn gynnes iawn i Rhian a’r tîm am eu bwydo.

Cyflwynwyd Huw Alan Roberts a Glyn Williams i’n diddannu ar ôl y wledd gan y cadeirydd. Mae Alan yn adnabyddus ac wedi treulio oes yn cyfeilio i blant, pobl ifanc, corau ac enwogion a chafodd ei wobrwyo ddwy flynedd yn ôl ym Meifod am y gwaith diflino mae wedi ei wneud.

Mae Glyn wedi bod yn ein mysg, yn cadw garej ym Morth y Gest ers bron 50 blynedd, ond mae Glyn yn ogystal yn denor enwog ac yn enillydd cenedlaethol mewn sawl Prifwyl. Mae wedi gwasanaethu yn lleol yn ogystal â theithio’n helaeth ac wedi canu ar lwyfannau llawer gwlad. Mae ei ddull rhadlon a’i straeon di-ri yn ei gwneud hi’n bleser gwrando arno.

Cawsom amrywiaeth o unawdau yn ogystal a deuawd gyda Rhian Prew. Diolchwyd yn gynnes i’r cwmni talentog am noson amrywiol a phroffesiynol gan Christopher Prew.

Pwysleisiodd Christopher mai un peth ydi cael talent a pheth arall yw bod yn fodlon gwasanaethu yn rhadlon.

Borth-y-Gest

SERVICE in English for Palm Sunday, 9 April at 10.30am. It will be led by the Rev Bob Harris of Criccieth.