THE latest community news from Porthmadog
Cymdeithas Undebol Capel y Porth a Jeriwsalem
DAN arweiniad medrus ein gweinidog Christopher Prew, cynhaliwyd ‘Blas yr Wyl’ ar 18 Rhagfyr.
Agorwyd y noson gan Elfed Lewis o Drawsfynydd, sydd â’r bwriad o fynd yn weinidog.
Cafwyd orig o garolau cynnulleidfaol a darlleniadau amrywiol a pherthnasol gan 12 o aelodau’r gymdeithas, sef Meryl Pike, Gwen Puw, Nerys Roberts, Rhian Prew, Margaret Williams, Margaret Humphreys, Hefina Jones, William Owen, Susuan Owen, Gwynne Wheldon, Selwyn Griffiths ac Eleri Pugh.
Talwyd y diolchiadau gan y Parch Dewi Morris a chyfeiriodd yn arbennig at deulu’r Ty Capel am addurno’r festri mor chwaethus.
Mwynhawyd a mins speis ar te a baratowyd gan y chwiorydd.
Taer erfyniwyd gan y Gweinidog am gwestiynau addas gan yr aelodau ar gyfer Hawl i Holi ar 15 Ionawr 2018.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.