THE latest community news from Pwllheli
Aelwyd Chwiorydd Capel y Drindod
Cynhaliwyd cyfarfod o Aelwyd yr Hwyr nos Fawrth, 30 Hydref.
Llywydd y noson oedd Morfydd Roberts.
Wedi croesawu pawb a derbyn ymddiheuriadau oddi wrth Mari Evans ac Enid Roberts, aeth ymlaen i’r Gwasanaeth Dechreuol, yn cynnwys emynau o waith Eifion Wyn.
G?r gwadd y noson oedd Gwyn Wheldon Evans, â’i bwnc oedd Eifion Wyn, (Eliseus Williams).
Aeth i’r ysgol ym Mhorthmadog ac yr oedd yn amryddawn iawn.
Ceisio unwaith am y Gadair yn y Genedlaethol yn 1905, gyda ‘Bugail’. Cael ail, ei awdl yn fwy poblogaidd na’r un enillodd.
Yn 1906 cyhoeddi Telynegion Maes a Môr. Hefyd yn emynydd, Efengyl Tangnefedd o hed dros y Byd, dipyn o sgwennu yn ôl a blaen cyn ei chyhoeddi.
Hefyd geiriau ‘Ora pro Nobis’ – gweddi dros bawb.
Aeth ar gwrs i fod yn weinidog ond ei iechyd ddim yn caniatáu.
Yn 1924 yn Eisteddfod Pontypwl, cyntaf gyda ‘Cwm Pennant’.
I ddarfod aeth Mr Evans drwy rhai o’r telynegion.
Diolchwyd iddo gan Catherine Hefina ac roedd y baned yng ngofal Eirlys ac Ann Jones.
Capel y Drindod
Gwener, 16 Tachwedd, 10yb – Cyfarfod Gweddi Undebol.
Sul, 18 Tachwedd, 10yb a 5yh – Gweinidog. Ysgolion Sul fel arfer. 7yh – Oedfa’r Ddwy Ofalaeth.
Llun, 19 Tachwedd, 2yp – Aelwyd y Chwiorydd. 7.30yh – Seiat yr Ofalaeth.
Mawrth, 20 Tachwedd, 7yh – Y Sied.
Mercher, 21 Tachwedd, 7yh – Clwb Ieuenctid.
Capel Penlan
Bydd gwasanaeth am 10yb dan ofal Diacon Stephen Roe, Dolgellau.
Cynhelir bore coffi Nadolig ar ddydd Mercher, 21 Tachwedd am 10.30yb, yn y festri.
Elw tuag at apêl Madagascar a’r g?r gwadd fydd y Cyng Eric Wyn Roberts, Maer Pwllheli.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.