THE latest community news from Pwllheli

Merched y Wawr

VALERIE Williams oedd llywydd cyfarfod nos Iau, 7 Mawrth yn Festri y Drindod – cyfarfod i ddathlu G?yl Ddewi.

Diolchodd y llywydd i’r aelodau hynny oedd wedi paratoi ac addurno’r ystafell ar gyfer y dathlu ac i’r aelodau a fuodd yn brysur yn gwneud crempogau.

Cydymdeimlwyd gyda Lena yn ei phrofedigaeth ac anfonwyd dymuniadau gorau i Katherine Hilton oedd wedi cael codwm. Mynegwyd diolch i bawb a gefnogodd Parêd Dewi Sant mewn unrhyw ffordd.

Llongyfarchwyd y rhai a fu’n cystadlu yn Chwaraeon y Rhanbarth, yn arbennig, Mari, Sian a Dilys, a ddaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth dartiau.

Aeth nifer o aelodau’r gangen i Noson G?yl Ddewi Cangen Efailnewydd ac wedi mwynhau yn fawr iawn – y croeso, y bywyd a’r adloniant.

Roedd y bore casglu ysbwriel yn llwyddiant mawr a threfnwyd i gyfarfod eto ar fore 13 Mawrth. Atgoffwyd yr aelodau am yr ?yl Wanwyn yn Neuadd Abersoch, dydd Sadwrn, 6 Ebrill – gydag arddangosfa o’r gwaith celf a chrefft am 2yp.

Croesawyd y g?r gwadd, Iwan Edgar, o Abererch – g?r amryddawn a diwylliedig gyda diddordebau eang.

Cafwyd sgwrs ddiddorol ganddo ar hanes Pwllheli gan ddechrau gyda hanes cynnar y dref an yna ymlaen dros y canrifoedd.

Cyfeiriodd at lenyddiaeth yn croniclo hanesion y dref ac ychwanegodd sylwadau ffraeth ar hanes ei gyndeidiau a’i brofiadau ei hun.

Diolchodd Mari iddo am sgwrs ddifyr iawn cyn i bawb fwynhau’r crempogau gyda phaned.

Capel y Drindod

GWENER, 22 Mawrth – 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol yn Yr Ala.

Sul, 24 Mawrth – 10yb, Parch Ron Rees. Ysgolion Sul fel arfer. 5yp, Eddie Griffith.

Llun, 25 Mawrth – 10.30yb Oedfa Undebol y Grawys yng Nghapel Penlan. 6yh, Clwb y Plant.

Mawrth, 26 Mawrth – 7yh, Y Sied.

Mercher, 27 Mawrth – 7yh, clwb ieuenctid.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]