THE latest community news from Pwllheli

Aelwyd Chwiorydd Capel y Drindod

DYDD Llun, 7 Hydref cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor o Aelwyd y Prynhawn.

Llywyddwyd gan Jane Lloyd. Croesawodd pawb, gan gynnwys Val Williams a Bethan Hughes oedd newydd ddod yn aelodau o’r capel.

Dymunwyd gwellhad buan i Jean Williams, Gwen Jones a Catherine Hefina. Llongyfarchwyd Jean Jones, Penrallt ac Eirlys Jones ar ddod yn hen neiniau. Hefyd dymunwyd yn dda i’r bobol ifanc oedd yn newid ysgol neu goleg. Cymrwyd y gwasanaeth dechreuol gan Eirlys Jones, yna rhoddwyd y prynhawn yn nwylo gwraig wadd arbennig iawn, sef Mair Lloyd Davies. Cafwyd prynhawn yn pori mewn hen lyfrau llofnodion.

Roedd y te yng ngofal Eirlys Jones a Jane Lloyd.

Nos Fawrth, 16 Hydref cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor o Aelwyd yr Hwyr. Croesawodd y llywydd, Enid Roberts bawb, yn arbennig y Parch Ann Jenkins a Gwyneth Jones.

Yna aeth ymlaen i’r gwasanaeth dechreuol – Lliwiau - arwyddocad i bob lliw, gwyrdd, glas, porffor at ati.

Yna cyflwynodd, yn ei ffordd arbennig ei hun, westai y noson, sef Dr Iwan Edgar, gan gyfeirio at ei nifer o ddiddordebau a’i wybodaeth anhygoel.

Ei destun oedd y gweinidog dall John Pulston Jones a fu’n Penmount 1907 i 1918. Yn ddall o’i blentyndod, aeth i goleg y Bala, a chael capeli Dinorwig a Fachwen cyn dod i Bwllheli. Roedd yn heddychwr, ac yn erbyn yr hyn roedd John Williams, Brynsiencyn yn recrwtio a derbyn swydd yn yr armi. Fe aeth i Neuadd y Dref pan oedd John Williams yno yn annerch a bu cryn gynnwrf.

Cyfeirodd Iwan at hunangofiant Pulston, a llyfr diweddar y Parch Harri Parri. Cafwyd wedyn gyfraniadau o’r gynulleidfa. Mwynhawyd paned o dan ofal Pat Parry a Gwenda Owen.

Capel y Drindod

GWENER, 25 Hydref: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol yn Yr Ala; 7yh, Cymdeithas Ddiwylliannol.

Sul, 27 Hydref: 10yb a 5yh, Andrew Settatree; Ysgolion Sul fel arfer.

Llun, 28 Hydref: 7.30yh, Cyfarfod Gweddi neu Seiat yr Ofalaeth.

Mawrth, 29 Hydref: 7yh, Aelwyd y Chwiorydd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]