THE latest community news from Pwllheli
Capel y Drindod
GWENER, 7 Chwefror: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol; 7yh, Cymdeithas Ddiwylliannol.
Sul, 9 Chwefror: 10yb, Stephen Roe; Ysgolion Sul fel arfer; 5yh, Alun Thomas.
Llun, 10 Chwefror: 2yp, Aelwyd y Chwiorydd; 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Cyfarfod Gweddi neu Seiat yr Ofalaeth.
Mawrth, 11 Chwefror: 7yh, Y Sied.
Mercher, 12 Chwefror: 7yh, Clwb Ieuenctid.
Aelwyd Chwiorydd Capel y Drindod
DDYDD Llun, 13 Ionawr cynhaliwyd cyfarfod o Aelwyd y Prynhawn.
Llywydd oedd Elsie Hughes a hi hefyd gymerodd y gwasanaeth dechreuol.
Cydymdeimlwyd ag Iola Jones a Jean Williams.
Gwnaeth Morfydd Roberts ddarllen llythyr o ddiolch oddi wrth yr Eglwys a’r gofalwyr; a phenderfynwyd rhoi’r drydedd wobr i’r Côr Merched yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yna croesawyd g?r gwadd y sesiwn, Griff T Owen a chafwyd prynhawn hwyliog yn ei gwmni.
Nos Fawrth, 21 Ionawr cynhaliwyd cyfarfod o Aelwyd yr Hwyr.
Llywydd oedd Eirlys Jones a hi hefyd gymerodd y gwasanaeth dechreuol.
Derbyniwyd ymddiheuriad gan Eleri Mai Roberts a chydymdeimlwyd â’r Parch Ann Jenkins.
Darllenwyd llythyrau o ddiolch oddi wrth yr Eglwys a’r gofalwyr.
Yna rhoddwyd y noson yng ngofal y g?r gwadd, sef John Glyn Jones (yr Oakley) a chafwyd noson ddifyr a diddorol yn ei gwmni.
Clwb y Bont
HANES papurnewydd Y Cymro, y bu’n gweithio iddo, a gafwyd gan William H Owen, Bangor.
Yn fisolyn a ymddangosodd gyntaf yn Llundain yn 1830, aeth y papur drwy lawer ymgorfforiad gan symud o Gymru i Loegr ac yn ôl droeon, nes sefydlogi ym 1932 dan olygyddiaeth John Eilian a Percy Ogwen.
Ym 1939 daeth John Roberts Williams yn olygydd, dyma yn oedd yr oes aur, gyda cylchfediad o 26,000.
Yn ogystal ag atyniadau poblogaidd megis ‘Pwy yw’r Berta’ a ‘Ble mae’r Bél’, ‘Clwb Plant y Cymro’ a ddenodd gannoedd o blant i gyfansoddi am y to cyntaf.
Er mawr golled daeth i ben ym 2017.
Mae Cymro misol wedi ymddangos yn ddiweddar.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.