THE latest community news from around PwllheliYsgol Cymerau

YN DDIWEDDAR cynhaliwyd cystadleuaeth flynyddol yr ysgol er cof am gyn-ddisgybl sef Steffan Wynne Jones a felly’r wobr i’r sawl buddugol oedd Tarian Goffa Steffan.

Nod y gystadleuaeth oedd ysgrifennu stori (testun agored), yna roedd unigolyn ym Ml 1-6 yn cael ei wobrwyo gyda tharian gan y beirniad, sef Mrs Plemming.

Ala Road

MORNING worship at the English Presbyterian church, Ala Road this coming Sunday, 25 September will be led by the Rev Iwan Ll Jones, Borth-y-Gest. The service starts at 11.15am.

Cymdeithas Chwiorydd Penlan

CYNHELIR cyfarfod cyntaf o Gymdeithas Chwiorydd Penlan bnawn Llun, 3 Hydref am 2yp. Edrychir ymlaen am sgwrs ynghyd â lluniau gan Wyn Owen am ei brofiad yn dosbarthu’r ‘bocsus i’r plant’ yn Belarus a gasglwyd Nadolig 2015.

St Peter’s

SUNDAY, 10.30am, Eucharist/Offeren; Monday, 9.30am, Celtic Morning/Prayer and Meditation; Tuesday, 10.30am, Holy Eucharist/Offeren; Friday, 3.30pm, Mediation, Blessed Sacrament and Benediction/Myfyrdod, y Sacrament Bendigaid a Bendith; Saturday, 10am, Holy Eucharist/Offeren. The church is open from 2pm to 4pm on Tuesdays and Fridays for the foodbank.

Oedfaon

CAPEL Seion: 10yb, Parch Gwyn C Thomas; Capel Penlan: 2yp, Parch Dewi Lewis, Talsarnau; Crynwyr: Thursday, 7.30pm in Capel y Drindod

Catholic masses

ST JOSEPH’S, Pwllheli: Saturday, 6.30pm, Welsh; Sunday, 11.30am, English. Church of the Most Holy Redeemer, Porthmadog: Sunday, 9am, English

Cymdeithas Hanes

ROEDD cynulliad dda iawn yn bresennol yng nghyfarfod agoriadol y tymor o gangen Dwyfor Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd nos Wener, 16 Medi. Croesawyd hwy’n gynnes gan Margaret Lloyd Jones ar gychwyn ei swydd fel llywydd newydd y gangen.

Pleser oedd cael cwmni’r hanesydd lleol John Dilwyn Williams yn wr gwadd.

Teulu Bodegroes’ oedd testun ei sgwrs ddifyr, gan olrhain hanes y teulu o’r 1600au. Difyr hefyd oedd clywed sut mae’r ty wedi datblygu dros y blynyddoedd ac am y rhai fu’n byw ynddo .Roedd John Dilwyn yn barod i ateb sawl cwestiwn gan y gynulleidfa.

Diweddwyd y noson bleserus gyda phaned a sgwrs. Bydd cyfarfod nesaf y Gymdeithas nos Wener, 21 Hydref pryd y disgwylir Rhian Williams, Ffestiniog i sôn am ‘Byw ar y fferm’. Cynhelir y cyfarfod yn ôl yr arfer yn festri Capel y Drindod a dechreuir am 7yp.

Capel y Drindod

GWENER, 23 Medi: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol Sul. 25 Medi: 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y Parch Iwan Ll Jones. Ysgolion Sul fel arfer. Llun, 26 Medi: 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Astudiaeth Feiblaidd. Mercher, 28 Medi: 7yh, Clwb Ieuenctid.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]