The latest news from around Pwllheli
Aelwyd Chwiorydd
NOSON gartrefol a gafwyd mewn cyfarfod o Aelwyd yr Hwyr Chwiorydd y Drindod nos Fawrth, 25 Hydref. Llywydd y noson oedd Enid Roberts a hi hefyd arweiniodd y defosiwn dechreuol ar y thema ‘Geiriau’. Derbyniwyd ymddiheu-riadau oddi wrth Morfydd, Eirwen a Gwyneth. Treuliwyd y cyfarfod yng nghwmni y beirdd gyda barddoniaeth o ddewis rhai o’r aelodau. Cafwyd amrywiaeth dda – o farddoniaeth plant a chyfoes i T H Parry-Williams ac wrth gwrs y llanc o dref Pwllheli, gan gynnwys rhai difrif a rhai doniol, gyda rhywbeth at ddant pawb. Diweddwyd y noson fwynhaol gyda phaned dan ofal Jane ac Eirlys.
Chwiorydd Penlan
CYNHELIR cyfarfod nesaf Cymdeithas Chwiorydd Penlan ar dydd Llun, 7 Tachwedd am 2 yp. Edrychir ymlaen at gwmni Robert Morris, Penygroes gyda sgwrs a lluniau o hen Bwllheli. Croeso cynnes i unrhyw un i ymuno â’r aelodau yn y cyfar-fodydd.Yng nghyfarfod mis Hydref penderfynwyd rhoi rhodd o £200, sef rhan o elw Bore Coffi yr Haf, i Gymdeithas Bad Achub Pwllheli tuag at yr apêl i gael bad achub newydd.
Ala Road
MORNING worship at the English Presbyterian church, Ala Road this coming Sunday, 6 November will be led by the minister, the Rev W Bryn Williams. The service starts at 11.15am and a warm welcome is extended to all.
St Peter’s Church
SUNDAY 10.30am, Eucharist/ Offeren; 4pm Gosber; Monday 9.30am, celtic morning / prayer and meditation; Tuesday 10.30am, Eucharist/Offeren; Friday 3.30pm, meditation, Blessed Sacrament and Blessing/Myfyrdod, Sacrament Bendigaid a Bendith; Saturday 10am Eucharist/Offeren.The church will be open between 2pm and 4pm on Tuesdays and Fridays for the Food Bank.CrynwyrMEETING on Sunday at 11.30am at Capel y Drindod.OedfaonCAPEL Seion 10yb, Parch A Meirion Roberts; Capel Penlan 5yh, Parchedig Glenys Jones, gweinidog.
Bore Coffi
ELENI cynhelir bore coffi Nadolig Capel Penlan ar ddydd Mercher, 30 Tachwedd am 10.30yb yn y festri.Bydd yr holl elw yn mynd tuag at Ambiwlans Pwllheli a Brigad Dân, Pwllheli. Mae galw mawr am eu gwasanaeth yn yr ardal. Croeso i unrhyw un gyfrannu at yr achos teilwng hwn.
Catholic Masses
ST PETER’S, Pwllheli – Sunday, 11.30am, English; Saturday, 6.30pm Welsh; Church of The Most Holy Redeemer, Porthmadog – Sunday, 9am, English.
Capel y Drindod
GWENER, 4 Tachwedd 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol; 7yh Cymdeithas Ddiwylliannol.Sul, 6 Tachwedd 10yb a 5yh, Oedfaon yng ngofal y Gweinidog. Ysgolion Sul fel arfer. 7yh Oedfa o Fawl yn Ebeneser, Y Ffôr.Llun, 7 Tachwedd 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, astudiaeth Feiblaidd.Mawrth, 8 Tachwedd 7yh, Aelwyd y Chwiorydd.
Mercher, 9 Tachwedd 7yh, Clwb Ieuenctid.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.