THE latest community news from Pwllheli.
Ala Road
MORNING worship at the English Presbyterian church, on Sunday, 27 November, will be led by the Rev David Isaacs.
The service starts at 11.15am, and a warm welcome is extended to all.
Aelwyd Chwiorydd
CYNHALIWYD cyfarfod o Aelwyd Chwiorydd y Drindod pnawn Llun, 14 Hydref dan lywyddiaeth Elisabeth Williams. Hi hefyd arweiniodd y defosiwn dechreuol.
Derbyniwyd ymddiheuriad oddi wrth Ann Jones.
Cafwyd trafodaeth ynglyn ag Apêl Cymorth Cristnogol a phenderfynwyd rhoi gafr, pethau ymolchi a glanweithdra i ferched Nepal ac arian at gonsul i blant Serbia. Yna croesawodd a chyflwynodd y llywydd wraig wadd y pnawn, sef Sioned Williams o Hosbis Dewi Sant.
Dywedodd bod dwy agwedd i’w swydd, sef codi arian a hefyd, tynnu sylw at yr elusen a datblygu’r darpariaethau sy’n cael eu cynnig. Pwysleisodd fod yr elusen yn hollol ar wahan i ofal clinigol, a dim o dan llywodraeth leol.
Mae’r pencadlys yn Llandudno yn cynnig gwlyau ac ystafelloedd dydd i gleifion sy’n dioddef o glefyd motor neurone, cancr ac ati.
Maent hefyd yn cynnig cymorth i gleifion sydd gartref ac yn cynnig gwasanaethau, pob peth o dacluso’r ardd, i gerdded y ci, er mwyn ysgafnhau y baich i’r cleifion a’u teuluoedd. Soniodd hefyd am y cynlluniau sydd ar y gweill.
Diolchwyd yn gynnes iddi gan Valmai Wiliams a diweddwyd y pnawn gyda phaned.
Catholic Masses
ST JOSEPH’S, Pwllheli: Sunday 9.00am (English); Saturday 6.30pm (English). Church of the Most Holy Redeemer, Porthmadog: 11.30am (English).
Bore coffi
CYNHELIR bore coffi yn festri Penlan ddydd Mercher, 30 Tachwedd am 10.30yb.
Bydd yr oll elw yn mynd tuag at wasanaethau Ambiwlans, a Brigad Dân, Pwllheli.
Trefnir byrddau gwerthu a stondin cacennau fel arfer, ynghyd â rafflau a tombola.
Y gwr gwadd yw Maer y Dref, sef y Cyng Henry Rees Williams.
Pris tocynnau yw £1, i gynnwys paned a bisgedi. Mae croeso cynnes i unrhyw un ddod i gefnogir gwasanaethau pwysig ac angenrheidiol hyn.
Cymdeithas Ddiwylliannol
CAFWYD noson hynod o ddiddorol yng nghwmni un o ‘hoelion wyth’ yr achos, sef Richard Dewson Williams, mewn cyfarfod nos Wener, 11 Tachwedd. Llywyddwyd gan y gweinidog, y Parch W Bryn Williams.
Gyda chymorth sleidiau ar gyfrifiadur, dan ofal y gweinidog, tywysodd yr aelodau o gwmpas Pen Llyn gan gynnwys Mynytho, Garn Fadryn, Rhos Botwnnog, Trefaes Bach a Mynydd Rhiw.
Rhoddodd hefyd dipyn o hanes ei deulu, y cysylltiad â Thudweiliog a tharddiad yr enw ‘Dewson’. Diolchwyd iddo gan Jane Lloyd.
Mwynhawyd paned dan ofal Evan J Jones a Jean Williams i ddiweddu’r noson.
St Peter’s Church
SUNDAY, 10.30am Eucharist/Offeren; Monday Celtic Morning/Prayer and Mediation; Tuesday, 10.30am Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd; Friday, 3.30pm Meditation, Blessed Sacrament, Benediction/Myfyrdod, Sacrament Bendigaid a Bendith. Saturday, 10am Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd.
The church is open between 2 and 4pm on Tuesdays and Fridays for the Food Bank.
Oedfaon
CAPEL Seion: 10yb Parch Ioan Wyn Gruffydd, Pwllheli.Capel Penlan: 5yh Parch Glenys Jones, gweinidog.
Crynwyr
MEETING at Capel y Drindod on Thursday at 7.30pm.
IAU, 24 Tachwedd - 10yb te a thost yn Festri Berea, Efailnewydd.
Gwener, 25 Tachwedd - 10yb Cyfarfod Gweddi Undebol yn Festri’r Ala.
Sul, 27 Tachwedd - 10yb yng ngo-fal Eddie Griffith. Ysgolion Sul fel arfer. 5yh Oedfa yng ngofal y Parch A Meirion Roberts.
Llun, 28 Tachwedd - 6yh Clwb y Plant. 7.30yh Cyfarfod Gweddi’r Ofalaeth.
Mawrth, 29 Tachwedd - 7yh Y Sied.
Mercher, 30 Tachwedd - 7yh Clwb Ieuenctid.
Clwb Rotari Santa Float
SATURDAY, 26 November - Santa arrives at Pwllheli Station at 11.15am; Santa Grotto at Plas Heli 12pm until 5pm.
Sunday - Santa Grotto at Plas Heli 10am until 4pm.
Monday, 28 November - Rhydyclafdy/Efailnewydd/Llannor.
Tuesday, 29 November - Pistyll/Llithfaen/Pentreuchaf.
Wednesday, 30 November - Criccieth.
Thursday, 1 December - Llanaelhaearn/Trefor.
Friday, 2 December - Morfa Nefyn.
Monday, 5 December - Tudweiliog/Edern.
Tuesday, 6 December - Botwnnog/Bryn Croes/Aberdaron.
Wednesday, 7 December - Llanbedrog.
Thursday, 8 December - Nefyn.
Friday, 9 December - Pen Lôn Llyn/Lôn Abererch/Ffordd Maer.
Monday, 12 December - Morfa Garreg/Fordd Mela/Promenade.
Tuesday, 13 December - Sarn-bach/Abersoch/Llanengan.
Wednesday, 14 December - Sarn.
Friday, 16 December - Lôn Golff-Pwllheli.
Monday, 19 December, Eve Ala Road, Pwllheli.
Tuesday, 20 December Abererch/Y Ffôr.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.