THE latest community news from Pwllheli.
Aelwyd
LLYWYDDWYD cyfarfod o Aelwyd yr Hwyr chwiorydd Y Drindod nos Fawrth, 28 Chwefror gan Mari Evans. Hi hefyd arweiniodd y defosiwn dechreuol ar y thema amserol “Dewi Sant”. Anfonwyd cyfarchion at Eirwen Williams.‘Cyfoeth yr Iaith’ oedd teitl y noson a dywediadau oedd yn poeni y wraig wadd, Gwyneth Sol Owen. Dosbarthwyd tudalen o bapur allan i bob aelod gan ofyn iddynt gofnodi y dywediadau yr oeddynt wedi eu clywed e.e.’Gwyn y gwêl y frân ei chyw’, ‘Pawb â’i fys lle bo’i ddolur’. Nodwyd wedyn fel yr oedd dywediadau yn amrywio o ardal i ardal. I gloi’r noson hwyliog a chartrefol mwyhawyd crempog a paned.
Garawys
CYNHELIR yr ail gyfarfod yng nghyfres y Garawys ar thema “Disgyblion” yng Nghapel y Drindod nos Lun, 13 Mawrth. Bydd y cyfarfod yn Gymraeg a chanolbwyntir ar y disgybl Mathew. Dechreuir am 7.30yh ac mae croeso cynnes i bawb.
St Peter’s
SUNDAY: 10.30am Holy Eucharist/ Offeren Sanctaidd; Monday: 9.30am Celtic Morning Prayer and Meditation; Tuesday: 10.30am Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd; Friday: 3.30pm Meditation, Blessed Sacrament and Benediction/Myfyrdod, Sacrament Bendigaid a Bendith; Saturday: 10am Holy Eucharist/Offeren Sanctaidd. Food Bank: Tuesdays and Fridays 2pm - 3pm.
Oedfaon
CAPEL Seion: 10yb Parch R W Griffith, Llangybi. Capel Penlan:10yb Parch Fred Hughes, Nefyn.
Catholic Masses
ST JOSEPH’S: Sunday, 9am; Saturday, 6.30pm. Church of the Most Holy Redeemer, Porthmadog: Sunday, 11.30am.
Capel y Drindod
GWENER, 10 Mawrth: 10yb Cyfarfod Gweddi Undebol.Sul, 12 Mawrth: 10yb Oedfa yng ngofal y Parch A Meirion Roberts. Ysgolion Sul fel arfer. 5yh Oedfa yng ngofal y Parch Morris P Morris. Llun, 13 Mawrth: 6yh Clwb y Plant. 7.30yh Oedfa Undebol y Grawys. Mawrth, 14 Mawrth: 7yh Aelwyd y Chwiorydd. Mercher, 15 Mawrth: 7yh Clwb Ieuenctid.
Merched y Wawr
YR AWDURES Meinir Pierce Jones o Nefyn oedd y wraig wadd yng nghyfarfod Dathlu Gwyl Dewi y gangen leol eleni. Roedd wedi darganfod hen lyfr o eiddo ei Nain o dri degau’r ganrif ddiwethaf yn llawn o gynghorion i ferched. Dewisodd ddarllen rhai â’u cyferbynnu gyda digwyddiad-au presennol ym mywyd ei theulu a merched yn gyffredinol, mewn ffordd llawn hiwmor. Ail ran y noson oedd gwledda ar ddanteithion wedi eu paratoi gan yr aelodau, dan oruchwyliaeth Mari Evans.Anfonwyd cofion at Katherine Hilton gan ddymuno gwellad buan iddi ar ôl ei damwain.Trefnwyd ymweliad a Ffatri Jam y Ffor ar 29 Mawrth a Gwibdaith i ymweld ag Arddangosfa Dathlu’r Aur, sef pen blwydd y Mudiad yn 50 yn y Parc, ger y Bala ar 19 Mehefin. Trystan Lewis, y cerddor, fydd y gwr gwadd ar nos Iau, 6 Ebrill, a bydd croeso i’r cyhoedd i ymuno â ni yn Festri’r Drindod am 7yh.
Ala Road
MORNING worship at the English Presbyterian Church, Ala Road this Sunday, 12 March, will be led by Rev Arthur M Roberts. The service starts at 11.15am.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.